David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud bod uwchgynhadledd wrthlygredd y mae’n ei chynnal yn Llundain yr wythnos hon yn “gyfle i ddangos bod ewyllys gwleidyddol i daclo’r llygredd rydyn ni wedi’i weld er sawl, sawl blwyddyn”.

Bydd arweinwyr a chynrychiolwyr o dros 40 o wledydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, gan gynnwys Nigeria ac Afghanistan – gwledydd gafodd eu disgrifio fel rhai “llwgr tu hwnt” gan Brif Weinidog Prydain mewn sylwadau diweddar.

Fe ddywedodd ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau John Kerry fod llygredd yn fwy o fygythiad i’r byd nag eithafwyr brawychol.

Ac mae Cameron hefyd wedi dweud y bydd rheolau newydd yn cael eu cyflwyno fydd yn golygu bod cwmnïau o dramor sydd berchen tua 100,000 o safleoedd yng Nghymru a Lloegr yn gorfod datgelu pwy sy’n berchen arnyn nhw.

‘Yr amser wedi dod’

Mae Llundain yn parhau i gael ei gweld fel un o’r prif ddinasoedd rhyngwladol sydd yn cael ei defnyddio gan bobol sydd eisiau cuddio arian anghyfreithlon.

Mae Prydain hefyd wedi cael ei beirniadu am beidio â chymryd camau llymach yn erbyn hafanau treth mewn tiriogaethau sydd yn dod o dan warchodaeth Prydain.

Ond mynnodd David Cameron fod ei lywodraeth eisoes yn ceisio annog mwy o wledydd i fod yn agored am eu trefniadau treth, a bod y gwledydd oedd wedi mynychu’r gynhadledd wedi dangos “awydd gwleidyddol … i weithredu”.

Ychwanegodd ei fod eisiau i wledydd mawr fel yr Unol Daleithiau, Tsieina ac India fod yn fwy tryloyw ynglŷn â pherchnogaeth cwmnïau, ac nad dim ond “pigo ar yr ynysoedd bychan” oedd yr ateb.