Pecynnau plaen Llun: PA
Mae cyfreithiau newydd Ewrop ar labeli pecynnau tybaco wedi cael eu dilysu gan Lys Cyfiawnder Ewrop yn dilyn tair her gyfreithiol.

Mae penderfyniad y llys yn golygu bod modd i wledydd fwrw ati i gysoni pecynnau safonol.

Fel rhan o’u dyfarniad ddydd Mercher, dywedodd y Llys Cyfiawnder fod rheolau ar gysoni pecynnau, gwahardd sigaréts menthol a rheolau newydd ar e-sigarets yn gyfreithlon.

Roedd yr heriau cyfreithiol yn erbyn Cyfarwyddyd Cynnyrch Tybaco’r Undeb Ewropeaidd, a gafodd ei mabwysiadu yn 2014.

Cafodd yr heriau gan gwmni Philip Morris International a British American Tobacco eu gwrthod.

Roedd cwmnïau Japan Tobacco International ac Imperial Brands hefyd â buddiant yn yr achos.

Fel rhan o’r her, roedd angen i’r llys benderfynu a oedd yr Undeb Ewropeaidd wedi camddefnyddio’u hawl i ddeddfu ar dybaco, ac a ddylai’r mater gael ei benderfynu ar lefel Ewrop neu’n genedlaethol fesul gwlad.

Rhybuddion iechyd 

Yn eu dyfarniad, dywedodd y llys fod rhybuddion iechyd yn golygu nad yw’r pecynnu cyfredol yn torri cyfreithiau Ewrop.

Ond fe fydd rhaid i becynnau gynnwys lluniau yn eu rhybuddion iechyd ar flaen ac ar gefn pecynnau, a rhybudd ychwanegol ar dop pecynnau.

Bydd y cyfarwyddyd cynnyrch newydd, felly, yn dod i rym ar Fai 20, ond fe fydd gan werthwyr flwyddyn i werthu eu stoc gyfredol.

Diben y rheolau yw lleihau nifer y bobol sy’n ysmygu yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd o 2.4 miliwn.

Mae elusennau canser yn cefnogi’r mesurau newydd.