Mae cynghorydd Llafur arall wedi’i wahardd am ddisgrifio ffordd Iddewig o edrych ar y byd fel “gwarth ar y ddynoliaeth” ac am gefnogi galwadau ar i Israel gael ei symud i’r Unol Daleithiau.

Fe ddaw gwaharddiad Salim Mulla, cynghorydd Blackburn a Darwen, oriau’n unig wedi i aelod o Gyngor Dinas Nottingham, Ilyas Aziz, gael ei wahardd am sylwadau dadleuol ar wefan Facebook.

Mae sylw Mr Mulla wedi’i wneud ers 2014, ac mae’r post hwnnw ar y we yn dangos ffilm o fachgen Palesteinaidd yn cael ei arestio. Yn ei sylw ar y fideo, dywedodd Salim Mulla ar y pryd: “Apartheid ar ei orau. Mae Iddewon Seionaidd yn warth ar y ddynoliaeth.”