Jeremy Corbyn: "Llafur yn unedig yn erbyn gwrth-Semitiaeth"
Mae’r blaid Lafur wedi gwahardd dros-dro gynghorydd am wneud sylwadau am Israel ar wefan gymdeithasol Facebook.

Fe awgrymodd y Cynghorydd Ilyas Aziz o Gyngor Dinas Nottingham, y gellid symud Israel i’r Unol Daleithiau heddiw, gan fod y wlad honno’n “ddigon mawr”. Oherwydd hynny, mae wedi’i atal tra bod ymchwiliad i’r sylw.

Fe ddaw wedi i arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, fynnu fod y blaid yn “unedig” yn erbyn gwrth-Semitiaeth. Fe fu’r wythnos ddiwetha’ yn un gythryblus i’r blaid, wedi gwahardd yr Aelod Seneddol, Naz Shah a chyn-Faer Llundain, Ken Livingstone.

Mae llefarydd ar ran y blaid Lafur wedi cadarnhau heddiw: “Mae Ilyas Aziz wedi’i wahardd tra bod ymchwiliad yn digwydd.”

Ymysg sylwadau ar Facebook gan Mr Aziz y mae’r canlynol, a gafodd ei rannu ar wefan Guido Fawkes: “Roedd Iddewon a Mwslimiaid yn byw ochr yn ochr yn y Dwyrain Canol cyn 1948. Efallai y byddai wedi bod yn ddoethach creu Israel yn America, mae’n ddigon mawr. Fe allen nhw hyd yn oed symud yno nawr.”