Ken Livingstone, cyn-faer Llundain (llun: Fforwm Economaidd y Byd CCA 2.0)
Mae arolwg barn newydd yn dangos y Blaid Lafur yn colli cefnogaeth yng nghanol y ffraeo mewnol yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl yr arolwg yn yr Observer heddiw, mae cefnogaeth Llafur ledled Prydain i lawr i 30%, 8 pwynt ar ôl y Torïaid ar 38%. Mae Ukip yn drydydd ar 15% a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP a’r Gwyrddion ar 5% yr un.

Daw’r arolwg ddyddiau cyn etholiadau ar gyfer y Cynulliad yng Nghymru, Senedd yr Alban, Maer Llundain a chynghorau lleol yn Lloegr ddydd Iau.

Dywed Sadiq Khan, ymgeisydd Llafur am Faer Llundain, fod ei siawns o gael ei ethol wedi cael ei ddifrodi gan sylwadau’n cyn-faer Ken Livingstone yn honni bod Hitler wedi cefnogi Seioniaeth cyn yr Ail Ryfel Byd.

Mae’n cyhuddo arweinwydd Llafur, Jeremy Corbyn, o weithredu’n rhy araf i fynd i’r afael â gwrth-semitiaeth o fewn ei blaid.

“Dw i’n derbyn fod sylwadau Ken Livingstone wedi ei gwneud hi’n fwy anodd i ddilynwyr y ffydd Iddewig fod y Blaid Lafur yn lle iddyn nhw, ac felly fe fydda i’n dal ati fel o’r blaen i siarad dros bawb,” meddai.

Yng Nghymru, gallai trafferthion Llafur fod yn newyddion calonogol i Blaid Cymru a’r Torïaid, ac yn yr Alban fe allen nhw hybu siawns y Torïaid i guro Llafur i’r trydedd safle.

Cafodd ychydig dros 2,000 o bobl ledled Prydain eu cyfweld rhwng 26 a 29 Ebrill ar gyfer yr arolwg.