Hefin Jones sy’n bwrw’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu.

Ymbalfalu am y gwir

Llongyfarch yr ymgyrchwyr diflino ar ddyfarniad cwest Hillsborough wnaeth David Cameron yn wresog, ond dychwelwn bum mlynedd lle bu iddo ddweud wrth yr union ymgyrchwyr hynny eu bod fel “a blind man in a dark room looking for a black cat that isn’t there”.

Dim arwydd o Plaid

Mae’n bedair blynedd ers i Wayne David ‘helpu’ trigolion Caerffili i gael gwared â phlacardiau Plaid Cymru o’u gerddi, ac yn Radyr heddiw mae teyrnged i’r achlysur wrth i blacardiau Plaid Cymru ddiflannu tra mae rhai Llafur, yn syfrdanol, yn cael aros lle y maent. Mae hyn yn ddigwyddiad go-lew o reolaidd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau dros y blynyddoedd, felly ni fedrir cyfeirio at Fethel fel yr ysbrydoliaeth. Ac ar yr awr olaf daeth datrysiad i’r dirgelwch – y cyngor eu hunain sydd wedi gorchymyn y staff i’w tynnu lawr. Ond nid yr arwyddion Llafur, yn naturiol.

Mae’r cyngor yn honni eu bod ar dir comin y cyngor ac felly’n torri rheolau niwtralrwydd. Er mai mewn gerddi  tai preifat oedd y rhan fwyaf. Ac mae’n hollol gyfreithlon i denantiaid eu rhoi fyny p’run bynnag. Swnio fel diwrnod difyr yn y llys mewn unrhyw wlad arall, ond Cymru yw hon, a Llafur yw’r rhain, felly mi gaiff pawb gario ’mlaen â’u bywyd.

Herio’r ‘Hood

Ac yn yr un ardal bu i adran iechyd a diogelwch y cyngor ymweld â thafarn y Robin Hood yn Canton oherwydd bod eu karaoke yn rhy uchel. Bur debyg nad oedd eu poster Plaid Cymru ar eu ffenestr yn ddim i’w wneud â’r ymweliad er nad oeddent wedi cynnal karaoke ers tair blynedd. Nac ychwaith ymweliad gan yr adran gynllunio am frics oedd yno ers blynyddoedd lu. A gan nad oedd, maent wedyn wedi gosod dau blacard mawr cyffelyb ar do’r dafarn.

Camggmeradau

Stephen Clee yw ymgeisydd UKIP yn Y Rhondda. Mae wedi llwyddo ar ei daflenni i gamsillafu’r dref, yn y dull hwnnw mor hoff gyda’n cyfeillion dros y ffin, fel ‘Rhonnda’, yn union fel gwnaeth Ron Hughes, ymgeisydd UKIP yno yn yr etholiadau am Lundain 2015. I fod yn deg, nid hwnnw oedd yr unig gamsillafiad felly mae’n bosib nad oedd yn trio. Anoddach yw cyfiawnhau’r polisïau o waredu’r ‘Care Quality Commission’, sydd fel awgryma ei enw uniaith yn gweithredu yn Lloegr nid Cymru. Mae hefyd yn gaddo y bydd Ofsted, sydd hefyd yn Lloegr yn unig, yn ymweld â’n hysgolion yn amlach. At lywodraeth!

Yes we Ken!

Gwaith craff a diplomyddol gan Bo-Jo wrth bwdu â busnesu Barack ynghylch y refferendwm. Ei ddau gyhuddiad oedd a) y rheswm ei fod eisiau Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd yw gorfodi TTIP ar y wlad, a b) mae’n wrth-Brydeinig oherwydd bod ganddo dras Kenyaidd. Mae’r cyntaf yn sicr yn wir, ond mae’r ail yn anoddach gan y byddai’n rhaid bod yn eithaf llithrig i fod yn frodor o Kenya sy’n edmygu’r Ymerodraeth Brydeinig.

Chwilota trylwyr

Wrth i’r Torïaid daro’r jacpot gyda’u chwilota trylwyr am unrhyw beth ddwedodd unrhyw aelod Llafur yn erbyn Israel erioed ar bapur neu sgrin, roedd milwyr Israel yn saethu merch 23 oed beichiog a’i brawd bach 16 oed yn farw ar y stryd. Ond edrychwch be ddywedodd hon ar Facebook bum mlynedd yn ôl!

Ddim at ddant pawb

Cegau agored yn Ffrainc wrth i’r deintydd Jacobus van Nierop dderbyn ei ddedfryd. Ei drosedd? Malu cegau 120 o’i gleifion yn fwriadol. Ffigwr eithaf clodwiw chwarae teg, yn codi’r cwestiwn sut sylwodd neb ar batrwm yn datblygu wedi rhyw ddwsin. Ni fedrir cadarnhau’r si fod David Cameron yn arwain yr apêl er mwyn ei benodi yn Weinidog Iechyd.

Arian mawr

Cyfalafiaeth ysbrydoledig gan Phillip Green, cyn-berchennog British Home Stores sydd â dyled o £1biliwn, canys iddo yntau a’i deulu dynnu dros hanner hynny iddyn nhw eu hunain mewn cyfranddaliadau. Heb sôn am y £151miliwn a gafwyd rywsut mewn rhent o 12 o’i siopau. Fe werthodd y cwmni am £1 y flwyddyn ddiwethaf – ddim cweit yn stori mor anhapus ac y medrai fod. Rhif 29 yw ef yn y ‘Sunday Times Rich List’. Coda, Syr Phillip.

Y newyddion mawr

142 tudalen oedd am ben-blwydd y frenhines ar newyddion botwm coch y BBC, ffigwr go-lew ac ystyried y ddwy dudalen arferol oedd pob stori arall yn ei chael. Ymysg yr uchafbwyntiau oedd “Anne and Judy Daley had travelled from Llandaff, Cardiff, setting out at 03:00 BST with their Cavalier King Charles Spaniel called Camilla, after the Duchess of Cornwall”.

Cer o ‘ma

Mae Llywodraeth Prydain wedi atal y £150,000 yr oedd yr iaith Gernyweg yn ei chael fel cefnogaeth, a dim ond ers i Ewrop ei dynodi fel iaith leiafrifol. Roedd hynny £3,000 yn llai na phris y cwt yn Abersoch.