Andy Burnham Llun: YouTube
Mae’r Aelod Seneddol Llafur Andy Burnham wedi dweud bod rhaid i’r sawl oedd yn gyfrifol am drychineb Hillsborough gael eu dwyn i gyfrif.

Daw sylwadau Burnham, sy’n Aelod Seneddol tros Leigh yng Nglannau Mersi, ar ôl i reithgor yn y cwest i farwolaethau 96 o gefnogwyr Lerpwl yn 1989 benderfynu eu bod nhw wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon.

Mae Burnham wedi cyhuddo’r sawl oedd yn gyfrifol o “gelu’r gwirionedd dros gyfnod o 27 o flynyddoedd”, gan ddweud bod y teuluoedd wedi cael cyfiawnder “o’r diwedd”.

Dywedodd Burnham fod yr heddlu, perthynas yr heddlu a’r wasg a’r system gyfiawnder i gyd wedi cyfrannu at ddiffyg cyfiawnder dros dri degawd.

‘Pardduo’r cefnogwyr’

Cyhuddodd yr heddlu o “amddiffyn ei hun uwchlaw amddiffyn pobol a gafodd eu niweidio yn sgil Hillsborough”, ac o “gydweithredu” â’r wasg mewn ymgais i bardduo’r cefnogwyr yn sgil y cwest gwreiddiol yn 1991.

Dywedodd fod y system gyfiawnder yn “rhoi’r flaenoriaeth i’r sawl sydd mewn awdurdod uwchlaw pobol gyffredin”.

Fe gyhuddodd yr heddlu yn ogystal o gefnu ar ymddiheuriad cyhoeddus yn 2012 pan gafwyd gorchymyn i gynnal cwestau o’r newydd.

Daeth i’r amlwg ar ddiwedd y cwest fod yr heddlu o hyd yn mynnu bod ymddygiad y cefnogwyr wedi cyfrannu at y marwolaethau.

Dywedodd Burnham fod “miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus wedi cael eu gwario ar ailadrodd celwyddau sydd wedi’u gwrthbrofi”.

Ychwanegodd na fyddai’r cwest wedi para cyhyd pe na bai’r heddlu wedi cadw at eu stori wreiddiol ynghylch ymddygiad y cefnogwyr.

Fe’i cyhuddodd o “roi’r teuluoedd drwy uffern unwaith eto”.

Ond fe ddywedodd Heddlu De Swydd Efrog ddydd Mercher nad oedden nhw wedi ceisio amddiffyn eu ffaeleddau yn ystod y cwest.

Argymhellion Andy Burnham

Mae Andy Burnham wedi galw ar Brif Gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog, David Crompton i ymddiswyddo.

Cafodd Crompton ei benodi yn 2012 ar ôl i banel annibynnol argymell y dylid diddymu rheithfarn y cwest gwreiddiol a chynnal gwrandawiad o’r newydd.

Galwodd hefyd ar Lywodraeth Prydain i fynd i’r afael ag anghyfartaledd o ran cynrychiolaeth i deuluoedd dioddefwyr a chyrff cyhoeddus mewn gwrandawiadau.

Mae hefyd wedi galw am weithredu un o argymhellion ymchwiliad Leveson ynghylch ymyrraeth y wasg.