Jeremy Corbyn
Mae arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan, Jeremy Corbyn, wedi cynnal cyfarfod gyda Barack Obama, gan ddisgrifio ei drafodaethau gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau fel rhai “ardderchog”.

Fe ddaeth Jeremy Corbyn allan o Neuadd Lindley yng nghanol dinas Llundain wedi awr a hanner o gyfarfod, gan ddweud wrth newyddiadurwyr a oedd wedi ymgynnull y tu allan ei fod ef a Barack Obama yn rhannu’r un weledigaeth ar nifer o bynciau – yn cynnwys yr Undeb Ewropeaidd.

“Mi fuon ni’n trafod yr heriau sy’n wynebu cymunedau ol-ddiwydiannol, a phwer y corfforaethau mawr byd-eang,” meddai Jeremy Corbyn, cyn ychwanegu at y rhestr o bynciau, “y defnydd o dechnoleg, a’r effaith y mae hynny’n ei gael ar y byd”.

“Mi fuon ni hefyd yn trafod tlodi,” meddai, “ac mi gawson ni sgwrs fer am Ewrop.”