Cyfarfod cynharach rhwng David Cameron a Barack Obama (llun parth cyhoeddus)
Mae Barack Obama wedi dweud bod dylanwad gwledydd Prydain yn y byd yn fwy trwy fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae ei sylwadau’n cael eu gweld yn ymgais bwriadol i ddylanwadu ar refferendwm Ewrop ym mis Mehefin, wrth iddo gyrraedd Llundain neithiwr.

Cyn cyrraedd hyd yn oed, roedd wedi cael ei feirniadu gan ymgyrchwyr Brexit sy’n ei gyhuddo o ragrith trwy alw ar i wledydd Prydain ildio sofraniaeth – er y byddai’r Unol Daleithiau yn gwrthod yn llwyr i wneud hynny.

Cyfarfod y Frenhines

Fe wnaeth arlywydd yr Unol Daleithiau ei sylwadau wrth iddo gyrraedd y wlad heddiw i gyfarfod y Prif Weinidog David Cameron a chael cinio â’r Frenhines.

Mae Cameron eisoes wedi croesawu sylwadau Obama, gan ddweud fod gan “ffrind” i Brydain berffaith hawl i roi ei farn ar y refferendwm ar Ewrop fydd yn cael ei chynnal ar 23 Mehefin.

Ac fe ysgrifennodd yr Arlywydd ddarn ym mhapur y Daily Telegraph yn gosod ei ddadleuon ac yn amddiffyn ei hawl i roi ei farn.

Cynnal y ‘berthynas’

Yn y Daily Telegraph fe bwysleisiodd Barack Obama y ‘berthynas arbennig’ rhwng y ddwy wlad, gan gyfeirio at y rhyfeloedd ble buon nhw’n ymladd ochr yn ochr.

“Wrth i ddinasyddion y Deyrnas Unedig ystyried eu perthynas â’r Undeb Ewropeaidd, fe ddylech chi fod yn falch fod yr Undeb wedi bod yn gymorth wrth ledaenu gwerthoedd ac arferion Prydeinig – democratiaeth, rheolaeth y Gyfraith, marchnadoedd agored – ar draws y cyfandir ac i’w gyrion,” meddai.

“Dyw’r Undeb Ewropeaidd ddim yn cymedroli dylanwad Prydeinig – mae’n ei ehangu. Dyw Ewrop gref ddim yn fygythiad i arweinyddiaeth ryngwladol Prydain; mae’n hybu arweinyddiaeth ryngwladol Prydain.”

Ychwanegodd yr arlywydd fod canlyniad y refferendwm “o ddiddordeb mawr” i’r Unol Daleithiau, a’u bod yn gobeithio y byddai Prydain yn aros yn yr Undeb er mwyn cadw cysylltiadau agos Ewrop ac America.

‘Gwrth-Brydeinig’

Mae sylwadau’r arlywydd eisoes wedi cythruddo sawl aelod blaenllaw o’ ymgyrch i adael Ewrop fodd bynnag, gan gynnwys Maer Llundain, Boris Johnson, ac arweinydd UKIP Nigel Farage.

Dywedodd Boris Johnson na fyddai Barack Obama “yn breuddwydio” gweld yr UDA yn ymuno â sefydliad fel yr Undeb Ewropeaidd, a’i fod yn “rhagrithiwr” felly am annog Prydain i aros.

“Fyddai’r Americanwyr fyth yn ystyried rhywbeth fel yr Undeb Ewropeaidd, iddyn nhw eu hunain nac i’w cymdogion yn eu hemisffer hwythau,” meddai’r Ceidwadwr.

“Pam ddylen nhw feddwl ei fod e’n iawn ar ein cyfer ni?”

Ychwanegodd Nigel Farage nad oedd croeso i sylwadau “yr arlywydd Americanaidd mwyaf gwrth-Brydeinig sydd wedi bod erioed”.