Barack Obama
Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama yn cyrraedd y DU ar gyfer ymweliad heddiw ac mae disgwyl iddo gael ei dynnu mewn i’r ffrae ynglŷn ag aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi awgrymu y bydd Barack Obama yn cefnogi’r ymgyrch i aros yn rhan o’r Undeb a fydd yn hwb sylweddoli i ymgyrch David Cameron, Remain.

Fe fydd y Prif Weinidog a Barack Obama yn cynnal cynhadledd newydd yfory lle mae disgwyl i’r Arlywydd fynegi barn ynglŷn â’r refferendwm ar 23 Mehefin er gwaetha galwadau gan ymgyrchwyr o blaid gadael yr UE iddo beidio ymyrryd yn y ddadl.