Mae grŵp o gyn-ysgrifenyddion Trysorlys yr unol Daleithiau wedi rhybuddio bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn “ormod o risg i’r DU”.

Mae George Schultz, Larry Summers a phump o gyn-ysgrifenyddion yn y Tŷ Gwyn wedi cefnogi’r ymgyrch Remain, sydd o blaid aros yn yr Undeb, gan ddweud ei fod yn well i ddyfodol Prydain.

Mewn llythyr agores ym mhapur newydd The Times, maen nhw’n dweud bod y berthynas arbennig wedi elwa o gael y DU yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.