Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd wedi datgan cefnogaeth i barhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Dywedodd llefarydd ar ran y sefydliad y byddai aros yn rhan o’r UE yn “well i fenywod ac yn well i fydwragedd.”

Esboniodd hefyd fod mwy na 33,000 o nyrsys a bydwragedd o wladwriaethau eraill yn yr UE yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG), ac o ganlyniad mae rheolau’r UE yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw gael y sgiliau a’r hyfforddiant cyfatebol i staff sy’n cael eu hyfforddi yn y DU.

“Dw i’n credu bod bydwragedd yn y DU yn gryfach o ganlyniad (i’r UE), bod gofal cleifion yn fwy diogel o ganlyniad iddo, ac amodau gwaith yn well hefyd,” meddai Cathy Warwick, Prif Weithredwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd