Mae grŵp o ASau wedi dechrau ymchwilio i achosion o aflonyddu rhywiol a thrais ymhlith pobol ifanc ar ôl i dystiolaeth ddangos bod 200 o honiadau o dreisio yn digwydd bob blwyddyn mewn ysgolion yng ngwledydd Prydain.

Dyma fydd yr ymchwiliad cyntaf o’i fath, gyda’r Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb yn ei lansio ar ôl gweld tystiolaeth nad yw rhai athrawon yn ymchwilio i ymosodiadau rhyw ac yn dewis anwybyddu rhai achosion.

Roedd yr ymchwil, a oedd yn cynnwys cynnal gweithdy â 300 o ddisgyblion, hefyd yn dangos nad yw rhai dioddefwyr yn dewis rhoi gwybod i athrawon am achosion gan eu bod yn ofni mynd i drafferth eu hunain.

Nod y pwyllgor, sy’n cael ei arwain gan yr AS Ceidwadol, Maria Miller, yw cyflwyno mesurau effeithiol a fydd yn lleihau nifer yr achosion o ymosodiadau rhyw.

Aflonyddu rhywiol

Roedd arolwg YouGov yn 2010 o bobol ifanc 16-18 oed yn dangos bod 29% o ferched wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn yr ysgol, tra bod 71% wedi clywed disgyblion yn galw enwau rhywiol tuag at ferched yn gyson yn eu hysgol.

Bydd ymchwiliad y pwyllgor yn parhau tan 22 Mai.