Yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove
Fe fyddai aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at niferoedd llawer uwch o fewnfudwyr, yn ol yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Michael Gove, wrth iddo feirniadu’r ymgyrch dros  aros yn yr UE gan eu cyhuddo o drin pleidleiswyr “fel plant.”

Mewn araith ddi-flewyn ar dafod yn ddiweddarach, fe fydd Michael Gove yn dweud bod y Llywodraeth wedi cyfaddef mewn dadansoddiad gan y Trysorlys ynglŷn â’r costau o adael yr Undeb, y bydd nifer y mewnfudwyr yn cynyddu’n sylweddol os yw Prydain yn aros yn yr UE.

“Daeth mwy na 250,000 o bobl i Brydain o Ewrop y llynedd. Cyhyd a’n bod ni yn yr UE ni allwn ni reoli ein ffiniau a datblygu polisi mewnfudo sy’n wirioneddol ddyngarol ac yn diogelu ein buddiannau economaidd hirdymor.”

‘Tanseilio gwasanaethau cudd wybodaeth’

Bydd yn mynnu hefyd bod aros yn yr Undeb yn beryglus, oherwydd byddai Llys Cyfiawnder Ewrop yn “tanseilio” gallu’r gwasanaethau cudd wybodaeth ym Mhrydain i gadw’r wlad yn ddiogel oni bai bod Brexit yn ennill.

Dywed Gove bod Llys Cyfiawnder Ewrop wedi defnyddio’r Siarter Hawliau Sylfaenol yn ddiweddar “i’w gwneud yn glir y gall benderfynu sut mae ein gwasanaethau cudd-wybodaeth yn monitro pobl sy’n cael eu hamau o fod yn frawychwyr.”

Daw ei sylwadau wrth i arolwg newydd gan y Daily Telegraph ddangos bod yr ymgyrch o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar y blaen gyda 52%, a Brexit gyda 43%.

Ddoe, roedd y Canghellor George Osborne wedi amddiffyn honiadau’r Trysorlys y byddai Brexit yn golygu bod cartrefi yn y DU ar eu colled o £4,300 y flwyddyn ac y byddai gwasanaethau cyhoeddus yn colli £36 biliwn y flwyddyn.

Ond mae ymgyrchwyr o blaid gadael yr UE wedi dweud bod yr adroddiad yn “wallus.”