Y Canghellor George Osborne
Yn dilyn galwadau gan y Blaid Lafur a’r SNP ar y Canghellor George Osborne i gyhoeddi ei fanylion treth, mae’r Prif Weinidog wedi dweud y dylai wneud hynny er mwyn dangos “tryloywder.”

Yn ôl llefarydd ar ran Stryd Downing, dywedodd David Cameron ei bod hi’n briodol i Brif Weinidogion, “prif weinidogion posibl” a changellorion “ddangos mwy o dryloywder” wedi i’r ffrae am sefyllfa ariannol y Prif Weinidog ddod i’r amlwg.

Yn ôl y Trysorlys, mae George Osborne yn “fodlon ystyried” ffyrdd i gynnig gwell tryloywder yn dilyn y galwadau i gyhoeddi ei fanylion treth sy’n deillio’n ôl i 2009-2010.

Ychwanegodd y llefarydd fod y Prif Weinidog yn credu y dylai “cangellorion a changellorion y gwrthbleidiau  ddangos mwy o dryloywder, ond dyw e ddim yn argymell y dylai fod yr un peth i bawb sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth.

“Mae’n briodol i ganolbwyntio ar y rheiny sydd wrth y llyw gyda chyllid y genedl,” meddai.

Mesurau

Mae disgwyl i David Cameron wynebu cwestiynau yn y Senedd heddiw, wedi i bapurau Panama ddangos fod ei dad, Ian Cameron, wedi sefydlu ymddiriedolaeth fuddsoddi mewn hafan ddi-dreth yn y Bahamas.

Roedd yr adroddiadau’n dangos bod Cameron a’i wraig wedi gwneud elw o £19,000 o’r ymddiriedolaeth.

Fe fydd hefyd yn gwneud datganiad ynglŷn â’r mesurau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem o  osgoi talu trethi a llygredd, cyn i uwch-gynhadledd ryngwladol gael ei chynnal yn Llundain ym mis Mai.