David Cameron
Fe fydd David Cameron yn wynebu cwestiynau yn y Senedd heddiw ynglŷn â’i sefyllfa ariannol wrth iddo wynebu Aelodau Seneddol am y tro cyntaf ers iddi ddod i’r amlwg ei fod wedi elwa o gronfeydd tramor.

Cafodd manylion eu cyhoeddi gan Cameron ei hun – y tro cyntaf i Brif Weinidog Prydain gyhoeddi’r fath wybodaeth – yn dangos ei fod e wedi talu dros £400,000 mewn trethi ar incwm o dros £1 miliwn yn y cyfnod rhwng 2009 a 2015.

Ond yn ôl arweinydd y Blaid Lafur mae gan y Prif Weinidog “gwestiynau mawr” i’w hateb o hyd.

Wrth i ASau ddychwelyd i San Steffan ar ôl gwyliau’r Pasg, fe fydd David Cameron yn gwneud datganiad ynglŷn â’r mesurau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i’r afael a’r broblem o  osgoi talu trethi a llygredd, cyn i uwch-gynhadledd ryngwladol gael ei chynnal yn Llundain ym mis Mai.

Fe fydd yn dweud wrth y Senedd ei fod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth eleni am drosedd newydd ar gyfer cwmnïau sy’n methu ag atal eu staff rhag twyllo’r system drethi.

Yn y cyfamser mae Llafur a’r SNP yn galw ar y Canghellor George Osborne i gyhoeddi ei fanylion treth hefyd.

Daw’r ffrae ar ôl i bapurau Panama ddangos fod ei dad, Ian Cameron, wedi sefydlu ymddiriedolaeth fuddsoddi mewn hafan ddi-dreth yn y Bahamas.

Roedd yn dangos bod Cameron a’i wraig wedi gwneud elw o £19,000 o’r ymddiriedolaeth.