Donald Trump
Mae gwrthwynebwyr Donald Trump yn cydweithio er mwyn ceisio ei rwystro rhag ennill y mwyafrif o bleidleisiau yn etholiadau Wiscondin.

Dyma un o wythnosau anodda’r dyn busnes sydd wedi rasio ar y blaen i’w wrthwynebwyr i geisio bod yn ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn y ras arlywyddol eleni.

Fydd canlyniad y bleidlais yn Wisconsin ddim yn cael ei gyhoeddi tan ddydd Mawrth nesa’.

“Dw i’n meddwl fod y wlad i gyd yn edrych tua Wisconsin i wneud y penderfyniad cywir yn y ras yma, oherwydd mae penderfyniad Wisconsin yn mynd i gael effaith mawr ar yr holl ras, ac oblygiadau tymor hir,” meddai Ted Cruz.

Ond mae Donald Trump yn edrych ar bethau’n obeithiol iawn: “Os enillwn ni Wisconsin,” meddai, “mae’r cyfan drosodd, a fi fydd yr ymgeisydd.”