Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai “nonsens” yw honni nad yw’r broses ar gyfer ei hadolygiad i’r diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yn dryloyw.

Daw hyn ar ôl i’r Athro Medwin Hughes, sy’n cadeirio’r adolygiad annibynnol i asesu’r gefnogaeth mae’r Llywodraeth yn ei rhoi i gyhoeddwyr, wynebu cyhuddiadau o wrthdaro buddiannau.

Mae hynny am fod yr Athro Medwin Hughes, is-ganghellor Prifysgol Cymru, yn gyfrifol am ddau gyhoeddwr sy’n cael sylw yn yr adolygiad – Gwasg Prifysgol Cymru a Chanolfan Cymru.

Mae sawl un wedi mynegi pryder wrth y BBC dros y penodiad, gan ddweud y gallai’r gwrthdaro buddiannau posib greu problemau i dryloywder yr adolygiad.

Wfftio

Ond mae’r Llywodraeth wedi wfftio’r honiadau, gan ddweud bod “unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei gofnodi a’i reoli” ar ôl iddi geisio cyngor gan ei swyddogion cydymffurfiaeth.

“Mae gofyn hefyd i aelodau lofnodi telerau ac amodau sy’n rhoi rheidrwydd arnynt i weithredu mewn ffordd agored a gonest,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg360.

“Byddwn yn gofyn i randdeiliaid, cyhoeddwyr a’r cyhoedd gyfrannu at yr adolygiad hefyd, yn ogystal â’r grŵp cynghori.

“Mae hefyd yn bwysig nodi nad dim ond adolygiad o’r cymorth yr ydym yn ei roi i gyhoeddwyr drwy Gyngor Llyfrau Cymru yw hwn. Mae’n adolygiad o’r cymorth yr ydym yn ei roi i gyhoeddi a llenyddiaeth yn gyffredinol. Yn wir, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi croesawu’r adolygiad hwn.”

‘Pwysigrwydd tryloywder’

Mewn ymateb, dywedodd Prifysgol Cymru bod yr Athro Medwin Hughes “wedi nodi ei fod ef a’i gyd aelodau wedi bod yn hapus i dderbyn gwahoddiad y Llywodraeth i wasanaethu ar y panel.

“Nododd hefyd fod yr holl aelodau yn ymwybodol o bwysigrwydd tryloywder a bod proses wedi’i sefydlu ar gyfer ymateb i wrthdaro buddiannau.

“Bydd y panel yn cyhoeddi fframwaith glir ar gyfer ymwneud â rhan-ddeiliaid er mwyn sicrhau bod cyfleoedd addas ar gyfer derbyn tystiolaeth ar y pynciau a nodwyd yn y cylch gorchwyl.”

Y pwyllgor

Mae’r grŵp, sydd hefyd yn cynnwys yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Aberystwyth, John Williams, nofelydd, colofnydd a threfnydd Gŵyl Talacharn, Pippa Davies, nofelydd, ymgynghorydd a golygydd gwefannau, a Martin Rolph, ymgynghorydd, wedi cyfarfod dwywaith eisoes.

Mae disgwyl i’r panel gyhoeddi ei adroddiad cyntaf erbyn mis Medi.