Mae Stephen Crabb wedi ymweld â chanolfan waith am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau newydd Llywodraeth Prydain.

Wrth ymweld â chanolfan yn Enfield, gogledd Llundain, dywedodd Aelod Seneddol Preseli Penfro ei bod yn bwysig iddo gyfarfod y staff.

“Ers 2010 mae’r Llywodraeth hwn wedi trawsnewid y wladwriaeth les o un oedd yn cadw llawer gormod o bobol mewn tlodi, i un lle mae pobol yn cael eu cefnogi i’r gweithle ac yn cael annibyniaeth ariannol.

“Rydw i eisiau adeiladu ar y gwaith gwych yma a sicrhau fod y system yn helpu pobol i gael eu cefnogaeth angenrheidiol, fel eu bod yn gallu dychwelyd i waith a gwella eu bywydau a rhai eu teuluoedd.”