Honiadau bod David Cameron wedi rhegi at Iain Duncan Smith yn ystod ffrae
Fe fydd Iain Duncan Smith yn siarad yn gyhoeddus ddydd Sul am y tro cyntaf ers iddo ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan.

Mae Stryd Downing yn paratoi ar gyfer goblygiadau posib yr hyn y bydd yn ei ddweud wrth Andrew Marr yn ei raglen ar y BBC.

Fe allai ei ymddiswyddiad o Gabinet Llywodraeth Prydain arwain at hollti’r Blaid Geidwadol, yn dilyn honiadau o ffrae gyda’r Prif Weinidog David Cameron a sylwadau gan Iain Duncan Smith am Gyllideb y Canghellor George Osborne.

Roedd Iain Duncan Smith yn anfodlon fod y Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) yn cael ei dorri.

Y Farwnes Altman

Ond mae’r Gweinidog Pensiynau, y Farwnes Ros Altmann wedi cyhuddo’i chyn-fòs o niweidio’r blaid ar drothwy’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae hi’n honni bod Iain Duncan Smith wedi bod o blaid y toriadau i’r budd-dal anabledd ers y cychwyn.

“Wedi gweithio ochr yn ochr ag e yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, rwy wedi gweld ei fod e wedi hybu’r union becyn hwnnw o ddiwygiadau i fudd-daliadau’r anabl y mae e nawr yn ei ddefnyddio fel rheswm dros ymddiswyddo.

“Yn syml iawn, alla i ddim deal pam ei fod e wedi dewis ymddiswyddo’n sydyn fel hyn pan oedd hi’n amlwg fod Rhif 10 a’r Trysorlys wedi dweud wrtho y bydden nhw’n oedi ac yn ail-feddwl am y mesurau hyn.

“Rwy’n arbennig o drist am fod hyn yn ymddangos fel pe bai’n ymwneud â’r ymgyrch ar gyfer y refferendwm Ewropeaidd yn fwy na pholisi’r Adran Gwaith a Phensiynau.”

Arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol

Mae hi hefyd wedi’i gyhuddo o “gamdrin y rhyddid i ddangos ein hochr” sydd wedi cael ei roi i’r Blaid Geidwadol gan Cameron, ac o “gynllwynio yn erbyn arweinyddiaeth y blaid”.

Ychwanegodd fod Iain Duncan Smith “yn eithriadol o anodd i weithio iddo”.

Mae’r Mail on Sunday yn honni bod David Cameron wedi rhegi at Iain Duncan Smith yn ystod sgwrs dros y ffôn nos Wener, ond mae llefarydd yn Stryd Downing wedi gwadu hynny.