David Taylor
David Taylor, ymgeisydd Llafur yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, sy’n esbonio…
 

Mae’n deg dweud fod y berthynas rhwng y Blaid Lafur a’r Mudiad Iaith heb fod mor gryf ag y gallai fod.

O safbwynt fy mhlaid i, gall Llafur fod wedi gwneud llawer mwy i ymgysylltu â Chymdeithas yr Iaith dros y blynyddoedd.

Nid yn unig yr oedd hi’n amharchus i wrthod y sefydliad fel y gwnaethom yn y gorffennol, ond rhoddodd hefyd yr argraff anghywir fod y Blaid Lafur, rywsut, yn wrth-Gymraeg.

Roedd hyn yn rhywbeth a oedd yn gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus, yn enwedig fel rhywun a fagwyd mewn ardal Cymraeg yng Ngogledd Cymru lle bûm yn siarad Cymraeg gyda ffrindiau ar fuarth yr ysgol. Nid oedd fy mhlaid yn siarad â’m cymuned.

Ddim yn eithafwyr

Erbyn hyn, dw i’n ymgeisydd Llafur o’r genhedlaeth newydd ac yr wyf eisiau gwneud pethau’n wahanol.

Yr oeddwn yn falch fod y Gymdeithas wedi mynychu cynhadledd y Blaid Llafur yn Llandudno fis diwethaf. Rwy’n gobeithio eu bod yn teimlo iddynt dderbyn croeso cynnes gan ein haelodau.

Gadewch i ni fod yn glir. Nid yw Cymdeithas yr Iaith yn eithafwyr. Maent yn grŵp pwyso a’u gwaith hwy yw herio’r llywodraeth.

Nid wyf yn cytuno â phopeth mae’r Gymdeithas yn ei ddweud ac yn ei wneud, ac yn sicr nid wyf yn esgusodi torri’r gyfraith gan rai pobl sy’n gweithredu yn eu henw, ond ar y cyfan maent yn ddinasyddion gweithgar ac yn poeni am achos hynod o bwysig.

Gweithio’n agosach

Mae rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn un unigryw. Yn wahanol i’r Comisiynydd ar hyn o bryd, yr wyf yn dryloyw ynghylch fy ngwleidyddiaeth fel aelod o’r Blaid Lafur.

Ond yn fy marn i, mae’r rôl hon yn fwy na gwleidyddiaeth plaid. Yr wyf yn sefyll fel ymgeisydd y Blaid Lafur, ond rwy’n benderfynol o fod yn Gomisiynydd ar gyfer Gogledd Cymru gyfan, gan gynnwys yr ardaloedd hynny nad ydynt yn cael eu hystyried yn draddodiadol gadarnleoedd Llafur fel rhai o ardaloedd gwledig a chymunedau Cymraeg eu hiaith.

Oherwydd dyma beth y dylai’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei wneud. Ond hefyd yr hyn y dylai Llafur ei wneud.

Fel plaid sydd gyda’r iaith Gymraeg yn rhan o’i galon, dylem fod yn gweithio’n agosach â Chymdeithas yr Iaith, a ni ddylem fod yn oddefgar yn erbyn unrhyw deimlad wrth-Gymraeg a fynegwyd gan unrhyw un o’n haelodau.

Cymreigio’r heddlu

Ar awgrym Cadeirydd y Gymdeithas, byddaf yn cynnal pwyllgor Gymraeg ar draws y sector cyfiawnder yng Ngogledd Cymru i weld sut y gallwn hyrwyddo mynediad at wasanaethau a swyddi Cymraeg.

Rwyf am gynnwys y Gymdeithas yng ngwaith y pwyllgor hwn mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Maent yn llais pwysig, heriol ac rwy’n eu gwerthfawrogi’n fawr.

Credaf ei bod hi’n bwysig i bob aelod o’r heddlu allu siarad Cymraeg i ryw raddfa.

Yn yr achos yma, hoffwn ganmol cyn-brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Richard Brunstrom. Roedd yn Brif Gwnstabl uchel ei broffil a hynod o ddadleuol.

Cafodd rhai pethau’n anghywir, ond ar ei ymrwymiad i’r iaith a’r ffaith ei fod wedi gadael etifeddiaeth barhaus, mae’n haeddu clod enfawr.

Mae hyn yn dangos fod y corff cyhoeddus yma’n medru dangos y ffordd.

Mae David Taylor yn ymgeisydd dros y Blaid Lafur yn etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Ngogledd Cymru ar 5 Mai.