Mae cyrff cyhoeddus yn cael eu rhybuddio am ‘gosbau llym’ os ydynt yn gosod boicotiau ar fasnach gydag Israel.

Mae disgwyl i ganllaw gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon a fydd yn nodi nad oes lle i foicotiau a osodir yn lleol gan gyrff cyhoeddus – gan gynnwys awdurdodau lleol – oni bai bod sancsiynau neu embargo cyfreithiol ffurfiol wedi cael eu rhoi ar waith gan y Llywodraeth.

Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth dau o awdurdodau lleol Cymru – Gwynedd ac Abertawe – wneud tro pedol ar eu penderfyniad i foicotio nwyddau o Israel ar ôl achos llys yn eu herbyn gan gorff hawliau dynol Iddewig – The Jewish Human Rights Watch.

Canllawiau

Bydd y canllawiau yn rhybuddio bod boicotiau’n debygol o dorri cytundeb Sefydliad Masnach y Byd, sydd wedi cael ei lofnodi gan yr Undeb Ewropeaidd ac Israel, sy’n mynnu triniaeth gyfartal i gyflenwyr o bob cenedl a’i llofnododd.

Dywedodd Swyddfa’r Cabinet y gall boicotiau hefyd “danseilio perthynas dda” a  “hyrwyddo gwrth-Semitiaeth” yn ogystal â rhwystro allforion o Brydain a niweidio’r berthynas ryngwladol.

Bydd y canllawiau newydd yn berthnasol i bob corff cyhoeddus, gan gynnwys y llywodraeth ganolog, y Gwasanaeth Iechyd yn ogystal â chwangos a chynghorau. Gallai unrhyw gorff cyhoeddus sy’n torri’r rheoliadau dderbyn cosbau difrifol, dywedodd Swyddfa’r Cabinet.

‘Ymosodiad ar ddemocratiaeth leol’

Dywedodd llefarydd ar ran arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn , fod y penderfyniad yn “ymosodiad ar ddemocratiaeth leol”.

Meddai’r llefarydd: “Mae gan bobl yr hawl i ethol cynrychiolwyr lleol sy’n gallu gwneud penderfyniadau heb reolaeth wleidyddol llywodraeth ganolog. Mae hynny’n cynnwys tynnu buddsoddiadau neu gaffael ar seiliau moesegol a hawliau dynol.

“Byddai gwaharddiad y Llywodraeth hon wedi gwahardd camau yn erbyn Llywodraeth Apartheid De Affrica.

“Mae gweinidogion yn sôn am ddatganoli ond, yn ymarferol, maent yn gosod polisïau’r Blaid Geidwadol ar gynghorau lleol etholedig ar draws y wlad.”