Pam bod Ken Skates wedi dileu neges ar ei gyfrif trydar?
Hefin Jones sy’n bwrw’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu…

Tiwn gron

Tri mis tan yr etholiad a rhagori mae newyddiadurwyr Cymru’n barod wrth ofyn yr un cwestiwn syrffedus i bob un aelod o bob un blaid yn ddi-ben-draw. Sef ‘a ydych chi’n fodlon clymbleidio â Llafur/Plaid/Toris/Lib Dems’. Ac mae unrhyw ateb onibai am ‘rydym ni’n canolbwyntio ar ennill mwyafrif’ yn cael ei ffrwydro’n ecstatig. Rhowch y gorau iddi. Bendith y tad.

Seddi gwag

Sawl Aelod Seneddol Llafur aeth i’r drafodaeth am symud yr etholiad ar Ewrop ymlaen fel nad yw hi’n mynd ar draws etholiadau’r Alban a Chymru? Wrth wneud cyfrif sydyn roedd o’n edrych fel… rhowch foment… dim un. Tebyg mai dyma’r cam diweddaraf yn eu gobaith y bydd y cyhoedd ddigon twp i gymysgu’r ddau etholiad fel brwydr rhwng UKIP a Llafur.

Sglefrio slei

Gwleidydda o safon gan Ken Skates, aelod De Clwyd, wrth fynnu mai Llafur oedd yr unig rai i warchod y Gwasanaeth Iechyd a bod ‘Ukip a Phlaid Cymru yn bwriadu ei ddiddymu’. Efallai bod sail i gredu’r un, ond distaw yr aeth ar ei Dwitter pan ofynnwyd iddo egluro’r ail. Ac yna, dilëwyd.

Dyledus barch

Doedd dim distawrwydd o’r fath gan Glyn Davies, wrth iddo ymateb i drydariad Llywodraeth Cymru’n croesawu doctoriaid o unrhyw ran o’r Unedig Deyrnas gan ddweud “This is a deeply disappointing tweet from Welsh Govt. UK Govt would never behave like this. Respect is a two way street.” Y math o barch mae Jeremy Hunt yn ei ddangos wrth orfodi’r cytundeb ar y doctoriaid a wfft iddyn nhw a’u streic.

Dryll o dan y glustog

North Korea seem to think that possessing a nuclear weapon makes them safe,” sibrydodd Phillip Hammond yn ein clust. “In fact it’s the opposite,” ael-gododd yn awgrymog. “Having a nuclear weapon makes them a target,” gorffennodd, wrth rwbio ei goes ar hyd Trident.

Gorau arf, arf dysg

Daeth Hammond ato’i hun mewn pryd i wrthod arwyddo ar ran Prydain rhyw gytundeb rhyngwladol dibwys UNICEF. Roedd 51 o wledydd wedi ymrwymo’n barod i beidio â thargedu ysgolion mewn rhyfel. “The stumbling block was Philip Hammond at Defence,” meddai Stephen Haines, y cyfreithiwr a luniodd y ddogfen.

Heddlu hyf

Cyfraith a threfn yn Chicago wrth i’r plismon Robert Rialmo erlyn y teulu LeGrier am $10miliwn. Y rheswm? Y poen meddwl y mae wedi’i ddioddef wrth iddyn nhw geisio ymchwiliad call wedi iddo saethu eu mab 19 oed, yn ogystal â saethu eu cymydog 55 oed Bettie Jones oedd yn dyst i’r saethu cyntaf. Cawn ond obeithio y bydd chwarae teg a bod $10 miliwn sbâr gan y teulu.

Cyfryngu costus

Ai hwn yw’r trydariad drytaf erioed? £48,000 oedd yr iawndal a roddodd y barnwr diduedd i Tom Elliott, Ulster Unionist Party, i’w dalu gan Phil Flanagan, Sinn Fein, wedi iddo bendroni ar wefan twitter faint o bobl yr oedd Tom wedi eu haflonyddu neu eu saethu tra’r oedd yn aelod o’r Ulster Defence Regiment. Er ei fod wedi ei dynnu ymhen awr ac ymddiheuro.

Byddai golwg ar gyfrif Tom Elliott yn dangos ei barch yntau at aelodau Sinn Fein, ond yn siŵr byddai Justice Stephens yr un mor glên â hwythau, a’r un mor llawdrwm ar Tom, pe baen nhw yn mynd ag achos cyffelyb o’i flaen.

Cyfryngu rhatach

Nid pob barnwr sydd mor gytbwys. Derbyniodd un yn Ffrainc fod Brahim Zaibat wedi torri’r gyfraith wrth bostio llun ohono y tu ôl i Jean Marie Le-Pen, cyn-arweinydd y Front National, sydd wedi cofrestru hawliau delwedd (imij raits ia mêt), a’r iawndal gafodd Jean oedd un Ewro.

Samariaid trugarog

“Bydd datblygiad o’r fath yn niweidio busnesau canol tref,” ebe Tesco a Morrisons ill dau yn eu hapêl ysgrifenedig yn erbyn adeiladu siopau newydd ger eu siopau nhw tu allan i Landudno.

Bygwth y drefn

Gwae a thrallod wrth i glybiau pêl-droed Tsieina ddarganfod arian mawr o rywle a dechrau prynu chwaraewyr fel petaen nhw yn glybiau o Loegr. “Is it a threat?” pendronodd Mark Lawrenson. “Yes it is!” atebodd yn gynhyrfus i’w gwestiwn ei hun.