Nathan Gill - dan bwysau o hyd
Mae’r ffrae tros ymgeiswyr UKIP yn parhau, gyda’r blaid yng Nghymru yn gwrthod galwad am ymddiswyddiad yr arweinydd.

Ond mae un o’r prif feirniaid wedi dweud eto bod trefn y blaid cyn Etholiadau’r Cynulliad yn llanast a nhwthau wedi methu â chyhoeddi rhestrau o ymgeiswyr ar gyfer y rhanbarthau.

Ac mae Nigel Williams, cadeirydd y blaid yn etholaeth Delyn, wedi galw eto am ymddiswyddiad yr arweinydd Cymreig, Nathan Gill.

‘Dim llawer o wrthryfel’

Doedd y galwadau am gael gwared ar yr arweinydd ddim yn “llawer o wrthryfel”, yn ôl Cadeirydd UKIP Cymru, David Rowlands.

Dim ond un cadeirydd etholaeth oedd yna, meddai wrth Radio Wales, dim ond chwech o gyn-ymgeiswyr oedd wedi arwyddo a doedd neb o’r deisebwyr “wedi gwneud rhyw lawer” tros y blaid.

Roedd yn honni mai canran fechan iawn o’r “mwy na 1300” o aelodau yn y blaid Gymreig oedd yn anhapus.

‘Llanast’

Mae Golwg360 wedi siarad gyda rhai o’r prif wrthwynebwyr sy’n dweud bod rheolaeth y blaid yng Nghymru yn llanast.

Does dim enwau eto ar y rhestrau rhanbarthol ar ôl gwrthryfel yn erbyn bwriad arweinyddiaeth y blaid yn Llundain i gael enwau amlwg o Loegr i sefyll.

Er fod Nathan Gill yn hawlio’i fod wedi ennill yr hawl i aelodau’r blaid yng Nghymru ddewis ymgeiswyr, mae wedi ei feirniadu am fethu â sicrhau hynny o’r dechrau.

Ac maen nhw’n feirniadol am nad oes etholiad wedi bod i ddewis Nathan Gill yn arweinydd.

Heddiw fe ddywedodd David Rowlands fod etholiad “ar y cardiau” wedi Etholiadau’r Cynulliad, ond heb roi addewid pendant.