Jeremy Hunt
Fe fydd Jeremy Hunt yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw ynglŷn â chytundebau meddygon iau, ar ôl i’r Llywodraeth fethu a dod i gytundeb gyda’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA).

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Iechyd ddweud bod trafodaethau wedi methu ac y bydd y cytundeb newydd yn cael ei orfodi ar feddygon yn yr haf.

Roedd y Llywodraeth wedi gwneud cynnig “terfynol” i’r BMA bnawn dydd Mercher wrth i filoedd o feddygon fynd ar streic, ond cafodd y cynnig ei wrthod.

Mae prif drafodwr y Llywodraeth Syr David Dalton wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt i ddweud bod trafodaethau wedi cyrraedd “diwedd y daith.”

Mae’r anghydfod yn ymwneud a thaliadau i feddygon dros y penwythnos gyda’r Llywodraeth yn mynnu y dylai dydd Sadwrn gael ei drin fel diwrnod arferol. Mae’r BMA yn gwrthod hyn ac yn dweud y dylai meddygon gael tal ychwanegol am weithio dydd Sadwrn.