Mae penaethiaid cwmni dur Tata wedi dweud wrth ASau heddiw y byddai’r diwydiant yn wynebu argyfwng arall pe bai’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi statws ‘economi farchnad’ i Tsieina.
Daw hyn wedi i’r cwmni gyhoeddi 1,000 o ddiswyddiadau ym Mhort Talbot a Llanwern fis diwethaf ar ôl brwydro yn erbyn llif o ddur rhad o’r Dwyrain Pell.
Fe ddywedodd swyddogion gweithredol wrth y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw eu bod yn galw am weithredu gan Ewrop i atal rhagor o ddympio dur.
Fe fydd Tata yn ymuno â chynhyrchwyr dur eraill mewn protest ym Mrwsel ddydd Llun i fynnu newid.
‘Angen chwarae teg’
Maen nhw’n rhybuddio y byddai rhoi statws ‘economi farchnad’ i Tsieina gan y Comisiwn Ewropeaidd, sydd yn cael ei gefnogi gan Brydain, yn ei gwneud yn llawer anoddach i rwystro dympio.
Mae’r arafwch yn economi China yn golygu bod gan y wlad tua 300 miliwn tunnell o ddur yn weddill – mwy na dwbl y galw yn Ewrop.
“Mae Tata yn bryderus iawn y bydd Ewrop yn cerdded yn eu cwsg i mewn i argyfwng dur hyd yn oed yn fwy drwy roi statws ‘economi farchnad’ i Tsieina,” meddai Tim Morris, pennaeth materion cyhoeddus Tata Steel Ewrop.
Rhagor o golli swyddi?
“Rydyn ni am weld chwarae teg mewn perthynas â mewnforion,” ychwanegodd Stuart Wilkie, cyfarwyddwr Tata ym Mhrydain.
“Gorau po gyntaf y gwelwn ni weithredu gan yr UE i rwystro mewnforion gan China a Rwsia.”
Fe ddywedodd Stuart Wilkie wrth yr ASau na allai sicrhau na fydd mwy o ddiswyddiadau yn digwydd yn y dyfodol, ond nad yw’r cynllun ailstrwythuro ym Mhort Talbot ar hyn o bryd yn rhagweld hynny.
Blaenoriaethau
Dywedodd AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts fod amharodrwydd y David Cameron i herio’r gor-gynhyrchu bwriadol a’r dympio cynyddol o ddur rhad Tsieina yn “siarad cyfrolau am ei flaenoriaethau”.
“Mae Llywodraeth y DU o blaid Tsieina yn derbyn statws ‘economi farchnad’ gan ei fod yn awyddus i Ddinas Llundain fod yn ganolbwynt masnach ar gyfer yr Renminbi, yr arian Tsieiniaidd,” meddai AS Dwyfor Meirionnydd.
“Dylai Llywodraeth y DU roi’r gorau i gefnogi ymgais China i ennill statws ‘economi farchnad’ a chymryd camau ar unwaith i berswadio’r Comisiwn Ewropeaidd i osod tariffau ar ddur Tsieineaidd i atal dympio mewnforion rhad.
“Dylai sicrhau dyfodol diwydiant dur Cymru fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a dylid mynd ar ôl hyn gyda’r un egni ag y gwelsom pan gafodd y banciau eu hachub yn 2008.”