Fe fydd cynrychiolwyr o undebau llafur y gweithwyr dur ac o gwmni Tata yn mynd gerbron Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Mercher i drafod argyfwng y diwydiant dur yng Nghymru.

Undeb Community yw’r undeb fwyaf blaenllaw yn y frwydr i gynnal gweithfeydd dur drwy wledydd Prydain, ac maen nhw’n galw am weithredu brys i fynd i’r afael â gostwng gwastraff, costau ynni, cyfraddau busnes, caffael a meithrin sgiliau.

Wrth roi tystiolaeth i’r pwyllgor, fe fydd Community yn tynnu sylw at y ffaith fod Tata yn cynnal 18,000 o swyddi yng Nghymru, gwerth £3.2 biliwn o allbwn a £1.6 biliwn o werth.

Colli 6,000 o swyddi

Ond ers dechrau’r argyfwng fis Hydref diwethaf, mae mwy na 6,000 o swyddi wedi cael eu colli ar draws y diwydiant dur yng ngwledydd Prydain.

Cyhoeddodd Tata fis diwethaf y byddai 1,050 o swyddi’n cael eu colli, gan gynnwys 750 ym Mhort Talbot a rhagor yn Nhrostre – mae’r cwmni wedi cyhoeddi cyfanswm o 3,000 o ddiswyddiadau dros y chwe mis diwethaf ledled Prydain.

Ers hynny, fe fu Community yn cyfarfod â thasglu Llywodraeth Cymru i drafod y sefyllfa, ac mae’r undebau a chynrychiolwyr o Tata ynghanol ymgynghoriad i drafod y ffordd ymlaen yn sgil y cyhoeddiad.

‘Diffyg cystadleuaeth’

Mae disgwyl i’r undeb dynnu sylw at ddiffyg cystadleuaeth o fewn y diwydiant o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Prydain ac at waredu gwastraff yn groes i reoliadau.

Byddan nhw’n galw ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno pecyn digolledi cyn mis Ebrill, cefnogi mesurau Ewrop ar waredu gwastraff yn gyfreithlon, cysoni cyfraddau busnes, cyflwyno fframweithiau rheoleiddio a chefnogi cwmnïau lleol yn y diwydiant adeiladu sy’n gysylltiedig â dur.

Yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor, sydd wedi’i gadeirio gan Aelod Seneddol Mynwy David TC Davies, fydd Stuart Wilkie a Tim Morris o Tata Steel, ysgrifennydd cyffredinol Community Roy Rickhuss a Gweinidog Busnes San Steffan Anna Soubry.