Fe  allai troseddwyr ifanc dreulio eu dedfryd mewn “ysgolion diogel” yn hytrach na charchardai fel rhan o adolygiad i’r drefn o’u cosbi.

O dan gynlluniau sy’n cael eu hystyried gan weinidogion Llywodraeth San Steffan fe fyddai troseddwyr o dan 18 oed yn cael eu cadw mewn lleoliadau “mwy therapiwtig” gyda’r ffocws ar addysg a’u paratoi ar gyfer bywyd yn y gymuned.

Mae David Cameron wedi cadarnhau bod y Llywodraeth yn ystyried defnyddio “ysgolion diogel” ar gyfer troseddwyr ifanc.