Steffan Evans
Steffan Evans sydd yn bwrw golwg dros faes fydd yn berthnasol tu hwnt i etholiadau mis Mai…

Gydag etholiadau mis Mai yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain a rhai o awdurdodau lleol Lloegr, mae’r ymgyrchu etholiadol wedi hen ddechrau a digon i’w drafod dw i’n siŵr dros y misoedd nesaf.

Un testun fydd yn siŵr o ddenu sylw yn y wasg ym mhob un o’r etholiadau yma fydd tai.

Prin fod wythnos yn mynd heibio bellach heb fod ‘na rhyw sôn yn y wasg am yr “housing crisis”, a gydag arolwg barn gan YouGov ym mis Rhagfyr 2015 yn canfod mae ‘tai’ yw prif ofid 61% o drigolion Llundain mae’n ymddangos yn anorfod y bydd yn frwydr allweddol yn ystod yr ymgyrch etholiadol i fod yn Faer Llundain.

Gyda thai wedi ei ddatganoli i’r Cynulliad, mae’n destun sy’n siŵr o gael effaith ar yr ymgyrch etholiadol yma hefyd. Felly beth fydd y pynciau llosg yma yng Nghymru yng nghyd-destun tai wrth i ni agosáu at 5 Mai?

Cofrestru landlordiaid

Dros y pum mlynedd diwethaf mae’r sector dai yng Nghymru wedi wynebu newidiadau mawr. Un o’r newidiadau mwyaf a gyflwynwyd oedd y system o gofrestru landlordiaid yng Nghymru.

Fe wnaeth y Blaid Lafur dderbyn beirniadaeth o ddwy ochr wrth ddatblygu’r polisi yma. Roedd Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dadlau nad oedd y cynllun yn mynd yn ddigon pell i warchod tenantiaid, tra bod y Ceidwadwyr yn dadlau fod hyn yn ychwanegu cost a biwrocratiaeth ddiangen.

Gyda’r cyfnod cofrestru bellach wedi agor i landlordiaid, ni fyddai’n syndod pe bai’r dadleuon yma yn ail ymddangos unwaith eto yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma.

Adeiladu rhagor

Un testun sydd yn siŵr o arwain at ddadlau yw’r angen i adeiladu tai newydd. Yn ôl ymgyrch Cartrefi Cymru mae angen adeiladu 12,000 o dai bob blwyddyn i ateb y galw presennol.

Er bod ‘na gytundeb ar draws y sbectrwm gwleidyddol bod angen adeiladu mwy o dai, fe fydd ‘na wahaniaethau mawr rhwng y pleidiau yng nghylch sut y dylid eu hadeiladu.

Er enghraifft, mae’n debygol y bydd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn rhoi mwy o bwyslais ar adeiladu tai cymdeithasol na’r Ceidwadwyr.

Fe gawn ni fwy o fanylion pan fydd y pleidiau yn cyhoeddi eu maniffestos ym mis Ebrill.

‘Hawl i brynu’

Yn 2015 fe wnaeth y Blaid Lafur gyhoeddi pe baen nhw’n ennill etholiadau’r Cynulliad yna fe fydden nhw’n dilyn esiampl Llywodraeth yr Alban ac yn cael gwared ar yr “hawl i brynu”.

Mae’n anodd meddwl am unrhyw elfen o bolisi tai sydd wedi arwain at fwy o anghytuno na’r “hawl i brynu” dros y tri degawd diwethaf ac fe fydd y polisi yma yn siwr o’i ail danio.

Mae hyn yn debygol o dderbyn rhyw fath o gefnogaeth gan Blaid Cymru, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi datgan eu bod yn erbyn y cynllun.

Mae’r ddadl yma yn siŵr o dderbyn cryn dipyn o sylw dros y misoedd nesaf nid yn unig o achos yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru ond o ganlyniad i newidiadau yn Lloegr hefyd.

Dylanwad o Loegr?

Un o bolisïau’r Ceidwadwyr a ddenodd sylw mawr cyn etholiad cyffredinol 2015 oedd eu cynllun i ymestyn yr “hawl i brynu” i Gymdeithasau Tai yn Lloegr.

Mae’r Bil sy’n deddfu ar y polisi hwnnw, yr Housing and Planning Bill, bellach gerbron Tŷ’r Arglwyddi a chyda’r Ceidwadwyr yn lleiafrif yn y fan honno mae ‘na ddisgwyl y bydd ‘na ddadlau chwyrn cyn i’r Bil gyrraedd y llyfr statud.

Mae’n bosib felly y bydd unrhyw bolisïau ar yr hawl i brynu gan un o’r pleidiau Cymreig yn cael eu trafod o fewn y cyd-destun Seisnig gan y wasg Brydeinig. Fe fydd rhaid aros i weld beth fydd effaith hyn ar y ddadl yma yng Nghymru.

Ffactorau lleol

Wrth gwrs, nid polisi tai cenedlaethol y pleidiau yn unig a allai gael effaith ar yr etholiad yma, gan fod ‘na nifer o ffactorau lleol allai gael effaith ar eu cefnogaeth hefyd.

Rhai wythnosau yn ôl fe wnaeth Cyngor Caerdydd gyhoeddi eu cynllun datblygu. Mae’r cyngor yn bwriadu adeiladu miloedd o dai ar draws y ddinas yn enwedig yn y rhannau gogleddol a gorllewinol.

A all y Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd, neu Blaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd, fanteisio ar unrhyw wrthwynebiad lleol i’r cynlluniau yma?

Mae’r misoedd nesaf yn addo bod yn rhai diddorol a chyffrous i’r sector dai yma yng Nghymru. Cawn weld sut y bydd y dadleuon yma yn datblygu wrth i ni agosáu at ddiwrnod yr etholiad.

Mae Steffan Evans yn fyfyriwr doethuriaeth yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn edrych ar y gwahaniaethau mae datganoli wedi’i greu rhwng polisïau ar dai cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr.