Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud bod aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn “hanfodol” er mwyn gwarchod hawliau gweithwyr.

Daw ei sylwadau fel rhan o’r wythnos ‘Caru Undebau’ i nodi cyfraniad undebau llafur ledled y Deyrnas Unedig i’w haelodau.

“Mae mesurau megis cyflog cyfartal, hawl i gyfnod mamolaeth, hyd yr wythnos waith a gwyliau blynyddol oll yn bethau yr ydym yn eu mwynhau diolch i aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd,” esboniodd Leanne Wood.

Fe ddywedodd Leanne Wood y byddai hawliau gweithwyr mewn perygl pe bai’r Deyrnas Unedog yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

‘Cryfhau hawliau yn y gweithle’

“Mae hawliau gweithwyr ymysg y nifer o fuddiannau a ddaw yn sgil aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Leanne Wood wedyn.

Fe ychwanegodd ei bod hi’n bwysig bod yr achosion “cadarnhaol dros bleidleisio i aros [yn yr UE] yn cael eu clywed yn uchel ac yn eglur.”

Ar hyn o bryd, yn ôl Leanne Wood, caiff y ddadl dros ddyfodol y Deyrnas Unedig yn Ewrop ei “dominyddu gan ofn a chodi bwganod.”

Fe ddywedodd hefyd y bydd Plaid Cymru yn parhau i “gefnogi’r cyflog byw i apwyntio gweithwyr ar fyrddau cyflogau,” ac yn “cefnogi gweithwyr a chryfhau eu hawliau yn y gweithle”.

“Byddwn yn parhau i wneud hynny drwy gyflwyno achos clir ac argyhoeddedig dros barhau o fewn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gwarchod a chynnal y breintiau yr ydym ar hyn o bryd yn eu mwynhau diolch i’r aelodaeth hynny.”

Caiff wythnos ‘Caru Undebau’ ei chynnal rhwng Chwefror 8 – 14, gyda nifer o ddigwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig i godi ymwybyddiaeth am y newidiadau i’r bil undeb llafur.