Mae’r system carchardai wedi methu mewn modd “cywilyddus” gyda chyfraddau ail-droseddu a lefelau o drais yn “sgandal”, yn ôl David Cameron wrth iddo lansio cynllun i ailwampio’r system heddiw.

Fe fydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ei fod yn creu chwech o “garchardai diwygio” lle bydd llywodraethwyr yn cael mwy o reolaeth ynglŷn â’r modd mae carchardai yn cael eu rhedeg ynghyd a mesurau i drawsnewid y system addysg yn y carchardai.

Mae disgwyl i Cameron fynnu nad yw cosbi “yn air brwnt” ond mae’n bwysig nad yw carcharorion yn teimlo bod cymdeithas wedi anghofio amdanyn nhw.

Yn ei araith yn Llundain, fe fydd David Cameron yn ymrwymo i greu’r carchardai diwygio newydd erbyn diwedd y flwyddyn.

Yn ol Downing Street, dyma’r araith gyntaf sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar garchardai gan Brif Weinidog o Brydain er mwy na dau ddegawd.

Ail-droseddu

Mae disgwyl iddo gyhoeddi ffigurau sy’n dangos bod 46% o holl garcharorion yn ail-droseddu o fewn blwyddyn o gael eu rhyddhau, gan godi i 60% i rai sydd wedi treulio dedfrydau byr yn y carchar. Mewn wythnos arferol mae 600 o achosion o garcharorion yn hunan-niweidio, o leiaf un hunanladdiad a 350 o ymosodiadau – gan gynnwys 90 ar aelodau o staff.

Fe fydd Cameron yn derbyn yr argymhellion sy’n cael eu gwneud yn yr adolygiad i addysg mewn carchardai gan y Fonesig Sally Coates, a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Mae’n cynnwys dod a diwedd i gytundebau rhanbarthol, ac fe fydd addewid hefyd i ddiogelu’r cyllid o  £130 miliwn ar gyfer addysg mewn carchardai.