Stephen Crabb
Hefin Jones sydd yn bwrw’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu…

Carwyn y cenedlaetholwr

Poeth aeth pethau yn San Steffan rhwng yr Aelodau Seneddol yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig. Aeth Steven Crabb mor isel â chyhuddo Carwyn Jones o “droi cefn” ar y Deyrnas Unedig, cyn rhoi cic arall. “Mae bellach yn rhannu’r un farn â Leanne Wood,” meddai wrth anwybyddu’r ddadl a bodloni ar gyhuddo Carwyn, o bawb, o genedlaetholdeb.

Nid oedd ychwaith yn hapus bod yr anghytuno’n cyrraedd, yn anochel, y llysoedd. “We believe it is the role of elected politicians to draw the devolution boundary – it isn’t the role of courts and the judges to decide on where the devolution boundary is,” dyrnodd Stephen y bwrdd, yn amlwg yn cyfeirio at y gwleidyddion hynny caiff eu hethol i Lundain, nid i Gaerdydd.

Lwc y geiniog

Posib fod rhai pobl wedi eu geni’n lwcus, a phrin neb mor lwcus â Hillary Clinton. Os oes angen ailgyfrif yn y ras ar gyfer enwebiad y Democratiaid, ond fod rhywrai o’r pleidleiswyr wedi gadael y neuadd, mae’n rhaid taflu ceiniog i benodi’r enillydd. Bu’n rhaid gwneud hynny chwe gwaith yn Iowa i weld os mai hi neu Bernie Sanders oedd dewis y gangen benodol, a chwe gwaith fe enillodd hi, sy’n siawns o 1/64 i chi fathemategwyr. Er, manifest destiny fydda hi’n ei alw debyg.

Rand yn cardota

“Can I get another 100 donors from Twitter tonight?” ymbiliodd Rand Paul ar y cyhoedd. “We must defeat Socialism” meddai, yn erfyn am ysbryd cymunedol i’w ariannu i wneud hynny. Roed Rand yn ddigon clên i gynnig dewis, rhag ofn nad oedd pawb yn medru talu’r un fath. “Contribute $35, $11 or just $2!!” ebychnododd.

Croen tew

Mae Gweinidog cyfrifol yn deall y daw amser bob hyn a hyn i roddi cyngor i gyhoedd sy’n falch o glywed gair i dawelu eu meddyliau gan rywun sy’n dallt y dalltings. Felly clap fach i Jeremy Hunt, a ddaeth i esbonio nad oedd angen doctoriaid arnom oll canys mae’r We yn dangos pa rash sy’n beryg neu beidio. Felly wfft i’r streic a’r syrjeris llawn. Mae’n debyg fod y meddygon wedi ateb yn eu miloedd gyda lluniau o anfadweithiau croen hynod debyg – ond gydag un yn beryg bywyd. Pur debyg na wnaiff Jeremy dorri i rash yn poeni.

Arwydd o ‘styfnigrwydd

Gwrthryfel ym Mhenarth, eto, wrth i gyngor y dref godi dau fys ar y cyngor sir a’u polisi bod strydoedd newydd Bro Morgannwg yn derbyn enw Cymraeg, drwy eu henwi’n uniaith Saesneg. “Meddir enwau Cymraeg neu gyda chysylltiad Cymraeg gogyfer datblygiadau newydd” yw geiriad y polisi, ond efallai dylent ddweud wrth Gyngor Penarth nad oes neb yn cael siarad Cymraeg heb sôn am roi arwydd. Mi fydd fel Caernarfon yna mewn dim.

Llysenwau del

‘Tanny Open to Public’ ebe pennawd yn Daily Post, yr ail waith iddynt gyfeirio at yr adeilad felly mewn wythnos, canys dyna mae perchnogion newydd Plas Tan-yr-Allt, Tremadog, yn “affectionately” galw’r lle. Ac felly’r Daily Post.

Felixir hir oes i’r Frenhines

Anhapus oedd ymgeisydd y Torïaid dros Geredigion, y bythol-goch, glas a gwyn Felix Aubel, i glywed am ddeiseb yn galw am i aelodau gael y dewis i dyngu llw i bobl Cymru yn hytrach na Brenhines Lloegr.“R’yn ni’n rhan o’r Deyrnas Unedig, ac felly mae rheidrwydd i bob Aelod Cynulliad i dyngu llw i’r goron ac i’r Frenhines,” ffeithiodd Felix, yn straffaglu i ddeall y syniad o ddeisebau, sef gofyn am newid. “Cywilyddus,” ffasgeiddiodd wedyn, yn yr un llais â’i gondemniad o’r cynghorydd Neil McEvoy am beidio canu ‘God Save The Queen’ fis Hydref.

Twymo’r galon

Clod a bri unwaith eto i’r trydydd sector, neu’r diwydiant elusen i bawb arall, wrth i Age UK esbonio i’r pensiynwyr oer pa gynllun egni fyddai orau iddynt fedru rhoi’r gwresogyddion ymlaen ychydig yn hirach. £41 y person roedd E.ON yn ei roi i Age UK am bob pensiynwr oedd yn arwyddo i’w cynllun penodol, oedd £245 yn fwy’r flwyddyn na’u tariff rhataf. £6miliwn mae Age UK wedi ei gael o’r bartneriaeth yn y flwyddyn ddiwethaf, a rhywbeth tebyg y flwyddyn cynt. Os yw’r stori a’r ffigyrau’n gywir mae hynny’n 146,341 o bensiynwyr yn 2015 sydd £245 yn dlotach, neu’n oerach wrth gwrs.

Cadw’r cylch i fynd

A mwy o haelioni a chymwynasgarwch fel petai’n Ddolig wrth i’r Unol Daleithau roi – ia, rhoi – $3.84biliwn o’u harian nhw eu hunain i wledydd dwyrain Ewrop er mwyn amddiffyn eu hunain rhag y perygl coch (Rwsia). Er, mynd yn syth i’r cwmnïau arfau a byddinoedd preifat, sydd mor hael â’r gwleidyddion yn Washington, wnaiff yr arian, felly unwaith eto mae pawb yn ennill.

Tic toc

A’r ochr yma i’r Iwerydd paratôdd y BBC eu cyhoedd eu hunain wrth ddarlledu drama-ddogfen chwyslyd ar ryfel yn erbyn Rwsia gyda’r teitl cynnil ‘World War Three’. Mae geiriau Edward Herman yn dod i gof wrth i’r Wythnos ffroenuchelu wrth symud ei sbectol fyny ei drwyn – rhywbeth fel “it is the function of the mainstream media to normalise the unthinkable for the general public”. Ac ar hynny, taniodd ei getyn ac arhosodd am y bom.