David Cameron
Mae David Cameron wedi croesawu cynnig drafft sy’n amlinellu cynlluniau ar gyfer dyfodol y DU o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y Prif Weinidog bod y cynlluniau yn dangos “cynnydd sylweddol” ond bod “rhagor o waith i’w wneud.”

Mae’r cynlluniau’n cynnwys “brêc brys” ar fudd-daliadau i fewnfudwyr sy’n gweithio, ynghyd â mesurau i roi mwy o bwerau i seneddau cenedlaethol i rwystro deddfwriaeth yr UE.

Cafodd y cynlluniau drafft, eu cyhoeddi gan Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, yn dilyn trafodaethau dwys gyda’r Prif Weinidog a swyddogion y DU.

Mae’n  arwain y ffordd at refferendwm ar ddyfodol y DU yn yr UE ym mis Mehefin, ac yn ddibynnol ar allu’r Prif Weinidog i ddod i gytundeb â 28 o arweinwyr cenedlaethol yr UE mewn uwch gynhadledd ym Mrwsel ar Chwefror 18 – 19.

‘Cynnydd sylweddol’

Mae David Cameron wedi wfftio beirniadaeth o’r drafft gan fynnu bod y mesurau sydd wedi cael eu cyflwyno yn dangos bod newidiadau’n bosib.

“Fe ddywedon ni ein bod angen cyflawni mewn pedwar maes allweddol, mae’r ddogfen hon yn dangos cynnydd sylweddol yn hynny o beth,” meddai David Cameron.

Fe ddywedodd y Canghellor George Osborne: “Pan rydych chi’n edrych ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn, byddwch yn gweld y cynnydd gwirioneddol i newid yr UE, o ddiwygio’r UE, a diwygio ein perthynas â’r UE.”

“Ond mae gwaith i’w wneud o hyd. Mae’n rhaid inni gael trafodaethau anodd dros yr wythnosau nesaf, a hoelio rhai o’r manylion pwysig.”

Fe ddywedodd Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, fod y cynllun yn “sylfaen dda am gyfaddawd.” Ond, fe ychwanegodd fod “trafodaethau heriol yn parhau. Does dim byd wedi’i gytuno tan y bydd popeth wedi’i gytuno.”

‘Codi cwestiynau’

Mae’r diwygiadau’n amodol ar gyrraedd cytundeb gyda 28 o arweinwyr cenedlaethol mewn cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd. Yna, fe fyddai’r diwygiadau’n dod i rym yn syth pe byddai’r DU yn pleidleisio i aros yn yr UE.

Mae’r cynnig i gyflwyno ‘brêc brys’ ar fudd-daliadau gwaith mewnfudwyr wedi codi cwestiynau.

Y bwriad yw cyflwyno cyfyngiad o bedair blynedd ar fewnfudwyr yr UE rhag hawlio budd-daliadau gwaith, a hynny os yw nifer y mewnfudwyr yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau cyhoeddus.

Ond, mae rhai wedi codi cwestiynau am ba mor hir y gall yr ataliad hwnnw fod mewn grym pe byddai’r broblem yn parhau.

Mae rhai o’r diwygiadau eraill yn cynnwys gwella cystadleuaeth yr UE a chynnwys trothwy o 55% ar gyfer seneddau cenedlaethol i wrthod cyfreithiau’r UE.

Dyma’r tro cyntaf hefyd i’r cynllun drafft nodi mewn cyfraith nad yr ewro yw unig arian yr UE, ac mae’n cynnig sicrwydd y bydd hawliau ardaloedd nad sy’n rhan o barth yr ewro yn cael eu diogelu.

‘Llais cryfach i Gymru’

Fe ddywedodd Jill Evans, AS Ewropeaidd Plaid Cymru y dylai “pobol Cymru gael yr hawl i bennu eu dyfodol eu hunain.”

“Mae hynny’n golygu os yw Cymru’n pleidleisio i aros yn yr UE, dylen ni ddim cael ein llusgo allan yn erbyn ein hewyllys os yw rhannau eraill y DU yn pleidleisio i adael. Dylai’r DU ddim cyflwyno gorchymyn i adael, oni bai bod pob un o’r rhannau etholaethol yn pleidleisio i wneud hynny.

“Mae Cymru wedi elwa’n fawr o fod yn rhan o’r UE, ac mae’r UE wedi elwa’n fawr o gael Cymru fel aelod.”

“Rydym ni am weld diwygiadau sy’n gwneud yr UE yn fwy agored, atebol ac effeithiol,” meddai “ond sydd hefyd yn rhoi llais cryfach a mwy uniongyrchol i Gymru ym Mrwsel.”

“Rydym yn well o lawer o ddadlau am newid o’r tu fewn, yn hytrach na gweiddi o’r ochrau.”