David Cameron, gyda Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, chwith, yn Downing Street
Fe fydd cytundeb drafft, a fydd yn ceisio cwrdd â gofynion David Cameron am ddiwygiadau i’r Undeb Ewropeaidd, yn cael ei ddatgelu’n ddiweddarach heddiw.

Mae’r cytundeb yn cynnwys pwerau newydd i seneddau cenedlaethol a fyddai’n eu caniatáu i geisio atal neu newid deddfwriaeth drafft o Frwsel os nad ydyn nhw am ei weld yn cael ei gyflwyno.

Fe fydd Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer “setliad newydd” rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd (UE) ond mae’n cydnabod bod nifer o faterion sydd angen eu datrys o hyd.

Mae’r Prif Weinidog yn gobeithio dod i gytundeb ynglŷn â’i ofynion mewn uwchgynhadledd o arweinwyr yr UE rhwng Chwefror 18-19, a allai arwain y ffordd  at gynnal  refferendwm cynnar ynglŷn ag aelodaeth y DU o’r UE.

Mae David Cameron yn wynebu cyfnod o drafodaethau diplomyddol “dwys” er mwyn ennill cefnogaeth yr arweinwyr eraill ond mae’n debyg bod ’na wahaniaethau mawr yn parhau ynglŷn â nifer o’i ofynion.

‘Cerdyn coch’

O dan y cynllun “cerdyn coch” sy’n cael ei ystyried, fe fyddai Aelodau Seneddol mewn seneddau ar draws yr UE yn cael 12 wythnos ar ôl i ddeddfwriaeth drafft gael ei gyhoeddi er mwyn ceisio ei atal.

Os yw 55% o’r seneddau’n cytuno, fe allen nhw ddod at ei gilydd i geisio gorfodi’r Cyngor Ewropeaidd i atal y ddeddfwriaeth arfaethedig neu ei newid er mwyn ymateb i’w pryderon.

Y gobaith yw y bydd yn rhoi mwy o reolaeth ddemocrataidd dros yr hyn mae’r UE yn ei wneud.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog amlinellu rhagor o fanylion mewn araith yn ddiweddarach.