Neil Kinnock, cyn-arweinydd y Blaid Lafur
Bydd angen i Jeremy Corbyn ymddiswyddo neu wynebu her arweinyddol os nad yw’n gallu dangos yn fuan ei fod yn gallu ennill yr etholiad nesaf, yn ôl un o gyn-arweinwyr y Blaid Lafur.

Cyfaddefodd Neil Kinnock ei bod hi’n “anodd” ar hyn o bryd dychmygu’r arweinydd Llafur presennol yn llwyddo yn y nod hwnnw o gipio grym erbyn etholiad cyffredinol 2020.

Ond mynnodd y gwleidydd o Dredegar, a arweiniodd y blaid rhwng 1983 ac 1992, y dylai Aelodau Seneddol roi amser i Jeremy Corbyn a pheidio’i danseilio.

Mynnodd y byddai unrhyw ymgais i rannu’r blaid a ffurfio plaid wleidyddol adain chwith newydd yn debygol o roi grym i’r Ceidwadwyr am y ‘rhan fwyaf o’r ganrif nesaf’.

Rhannu’r blaid?

Daeth sylwadau Neil Kinnock yn sgil sôn bod rhai ASau ar feinciau cefn Llafur yn ystyried creu plaid newydd, neu ethol eu ‘harweinydd’ eu hunain allai ymladd yr etholiad cyffredinol nesaf yn lle Jeremy Corbyn.

Camgymeriad fyddai hynny, yn ôl y cyn-arweinydd, ond fe rybuddiodd y byddai’n rhaid i Jeremy Corbyn ddangos bod pethau’n newid os oedd e am aros yn y swydd.

“Os yw hi’n edrych fel petai Jeremy’n methu â chysylltu â’r etholwyr ar ôl cyfnod rhesymol o amser, falle y daw e i gasgliad ei hun,” meddai Neil Kinnock mewn sylwadau yn The Spectator.

“Fe fydd y bobl hynny sydd eisiau ennill pŵer, os ydyn nhw ar y chwith, dde, neu yn y canol, yn edrych ar y dystiolaeth ac yn gwneud eu penderfyniadau ar sail hynny … fe fyddan nhw eisiau gwybod bod ganddyn nhw blaid sydd yn symud yn ei blaen gyda’r etholwyr.”