Un o gynghorau Llundain fydd y corff etholedig cyntaf i bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd pe bai cynnig gan gynghorwyr UKIP yn Havering yn llwyddiannus.

Diben y cynnig, yn ôl y Daily Telegraph, yw darbwyllo’r Cyngor i gefnogi’r ymgyrch sy’n brwydro i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i chwech o gynghorwyr UKIP glymbleidio â Cheidwadwyr a chynghorwyr annibynnol sy’n gwrthwynebu’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd arweinydd UKIP ar Gyngor Havering, Lawrence Webb ei fod yn hyderus o sicrhau cefnogaeth i’r cynnig.

Dywed y cynnig: “Oherwydd effaith negyddol cyfarwyddiadau’r Undeb Ewropeaidd megis amser gwaith asiantaethau a’u rheolau caffael ar allu a chost cyflawni ymrwymiadau Cyngor Havering, mae’r Cyngor hwn yn cytuno y byddai Prydain yn well ei byd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”

Cafodd Webb – ymgeisydd UKIP i fod yn Faer Llundain yn 2012 – ei ethol yn gynghorydd cynta’r blaid yn Llundain yn 2013.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai’r pleidiau eraill yn dilyn esiampl UKIP.

Fe fydd dadl y Cyngor yn cael ei ddarlledu ar y we nos Fercher am 7.30.