Y gweinidog busnes, Anna Soubry
Mae’r ffrae am bwy ddylai gymryd cyfrifoldeb dros yr argyfwng yn y diwydiant dur yng Nghymru yn poethi wrth i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru roi’r bai ar y naill a’r llall am beidio â gwneud digon.

Ar ôl i gwmni dur Tata gyhoeddi ddoe bod mwy na 1,000 o weithwyr yn colli eu swyddi, y rhan fwyaf ohonyn nhw ym Mhort Talbot, fe ddywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Anna Soubry, yn glir mai cyfrifoldeb y Llywodraeth ym Mae Caerdydd oedd helpu’r rhai a gafodd eu heffeithio.

“O ystyried setliad datganoli’r Deyrnas Unedig, bydd y rhan fwyaf o’r cymorth sy’n gallu cael ei gynnig yn ne Cymru, i’r gweithwyr a Tata fel ei gilydd, yn dod o Lywodraeth Cymru,” meddai Anna Soubry.

“Rhaid cofio bod cyfraddau busnes yng Nghymru wedi’u datganoli a Llywodraeth Cymru sydd â’r penderfyniad os ydyn nhw am, neu’n gallu, gwneud unrhyw beth i helpu Tata.”

Llywodraeth Cymru yn ‘gwneud popeth posib’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai’r llywodraeth yn “gwneud popeth posib” i helpu’r diwydiant ond pwysleisiodd bod problemau dur Cymru yn mynd y tu hwnt i gyfrifoldebau datganoli.

“Am flynyddoedd, dw i wedi ymuno â gwneuthurwyr dur Cymru wrth lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig am brisiau ynni afresymol ym Mhrydain,” meddai Carwyn Jones.

“Dylai’r mater hwn fod wedi’i drin flynyddoedd yn ôl, ond mae’n rhaid inni weithredu ar frys yn awr ar fesurau cymorth ynni i gynhyrchwyr dur.”

Bydd Llywodraeth Cymru bellach yn sefydlu tasglu arbennig i helpu’r gweithwyr sydd wedi’u cael eu heffeithio ac mae Llywodraeth Prydain am fod yn rhan o hyn.

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw pellach ar sylwadau penodol Anna Soubry.

Gwladoli’r diwydiant?

Yn y cyfamser mae dau ffigwr cyhoeddus ym myd gwleidyddol Cymru hefyd wedi ystyried y ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gamu i’r adwy.

Mae erthygl gan yr economegydd yr Athro Gerald Holtham ac ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru Adam Price yn awgrymu y gallai’r llywodraeth ymuno mewn menter ar y cyd â Tata – hynny yw, gwladoli’r diwydiant yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Gan gymryd tua degfed o’i chyllideb flynyddol o £11.4 biliwn bob blwyddyn am ychydig o flynyddoedd, maen nhw’n dadlau y gallai greu rhagor o swyddi ac osgoi cwymp y diwydiant.

Gall y Llywodraeth, yn ôl yr erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, hefyd annog yr awdurdod lleol i noddi rhan o’r prosiect.

Yn ôl yr Arglwydd Dafydd Wigley, mae hyn yn bosib, a chytunodd â’r syniad yn Nhŷ’r Arglwyddi ddoe:

“Oherwydd ansawdd uchel ac arbenigol y dur sy’n cael ei gynhyrchu yn Shotton, Trostre, Llanwern a Phort Talbot, gallai hyn fod yn bosib.

“Rwyf yn annog Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â hyn ar y cyd â Llywodraeth Cymru i weld a yw hyn yn ffordd gadarnhaol o’r anhawster hwn.”

‘Diogelu gweithwyr’

Galwodd yr Aelod Seneddol, Jonathan Edwards am yr un peth, gan ddweud y byddai cymryd cyfran dros dro yn Tata Steel yn “diogelu gweithwyr” ac yn “gwarchod y diwydiant”.

“Dylai Llywodraeth y DU hefyd fod yn pwyso i dorri cyfraniad yswiriant gwladol cyflogwyr yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Byddai mesurau fel hyn yn helpu i leihau effaith colli swyddi ac yn rhoi hwb i’r ardal,” ychwanegodd.