Dydy’r BBC heb addasu i ‘siâp newydd’ y Deyrnas Unedig yn ôl un o brif felinau trafod Cymru.

Fel rhan o’r adolygiad i siarter y BBC, mae’r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) wedi dweud bod angen i’r BBC ‘addasu’ i ddatganoli ac y dylai Ymddiriedolaeth y Gorfforaeth ddod i ben.

Yn ôl y sefydliad, mae angen creu Cyngor Darlledu Cenedlaethol i oruchwylio’r BBC yng Nghymru fel rhan o system newydd o reoleiddio’r gorfforaeth.

Grŵp Polisi Cyfryngau’r IWA sydd wedi rhoi’r dystiolaeth i adolygiad Syr David Clementi ar y BBC, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale, yn ystod y ddau fis nesaf.

Os caiff galwadau’r grŵp eu gwireddu, bydd yn golygu bod y BBC yn ddarostyngedig i’r rheoleiddiwr teledu OFCOM ac y byddai S4C hefyd yn rhwym i’r un rheoliadau.

Ar hyn o bryd, caiff y gwaith o reoleiddio’r BBC ei wneud gan Ymddiriedolaeth y corff ac OFCOM ar y cyd, ond mae’r IWA am weld hyn yn newid.

“Amser cywir i unioni’r BBC”

“Credwn mai ar gyfnod yr adolygiad cyfredol ar Siarter y BBC yw’r amser cywir i unioni rheolaeth a llywodraethant y BBC gydag ysbryd y broses ddatganoli,” meddai’r dystiolaeth.

“Credwn hefyd y gellir gwneud hyn heb greu niwed i undod nac effeithiolrwydd y sefydliad ar y cyfan.”

Dywedodd Angela Graham, Cadeirydd Grŵp Polisi Cyfryngau’r IWA, “Mae dyfodol ein sefydliadau a’n gwasanaethau darlledu yn fater hollbwysig i’n democratiaeth, ein diwylliant a’n heconomi.

“Rhaid i ni fod yn fwy gwyliadwrus a chreu adnoddau gwell i gael dylanwad effeithiol ar siâp a chwmpas y gwasanaethau sy’n hanfodol i ni fel unigolion ac fel cenedl.”

“Adlewyrchu tirlun gwleidyddol” datganoli

Ym mis Tachwedd, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall, fod angen i’r BBC “addasu ei gwasanaethau” yn sgil datganoli.

Dywedodd fod y gorfforaeth am sicrhau eu bod yn “adlewyrchu’r tirlun gwleidyddol gwahanol yn llwyr.”