Y Frenhines
Fe allai cyfnod ‘God Save The Queen’ fel anthem i dimau chwaraeon Lloegr fod yn dirwyn i ben os yw cynnig fydd yn cael ei drafod yn San Steffan heddiw yn cael ei basio.

Ddydd Mercher fe fydd Aelodau Seneddol yn trafod cynnig gan yr AS Llafur Toby Perkins yn galw ar Loegr i ddefnyddio anthem wahanol mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Mae sawl grŵp ymgyrchu hefyd wedi galw ar Loegr i gael ei hanthem swyddogol ei hun, gan ei bod hi ar hyn o bryd yn defnyddio’r un anthem ag un Prydain.

Ond fyddai unrhyw newid i’r anthem, os yw’n digwydd, ddim yn debygol o gael ei wneud mewn pryd ar gyfer cystadlaethau fel Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ac Ewro 2016.

‘Lloegr a Phrydain ddim ‘run peth’

Mynnodd Toby Perkins, fydd yn arwain trafodaeth ddeg munud ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, ei bod hi’n bryd cydnabod bod Lloegr a Phrydain yn ddau endid gwahanol.

“Does gen i ddim byd yn erbyn ‘God Save The Queen’ ond hwnnw yw anthem genedlaethol y Deyrnas Unedig,” meddai AS Chesterfield.

“Mae Lloegr yn rhan o’r DU ond yn cystadlu fel gwlad ar wahân a dw i’n meddwl y byddai cân oedd yn dathlu Lloegr yn hytrach na Phrydain yn fwy addas.

“Mae tipyn o sôn wedi bod am yr undeb yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Dw i’n Sais ac yn Brydeiniwr a dw i’n falch o’r ddwy beth yna ond dydyn nhw ddim yr un peth.”

Jerusalem

Mae sawl grŵp ymgyrchu sydd hefyd o blaid newid yr anthem wedi galw am gân ‘Jerusalem’, sydd eisoes yn cael ei defnyddio gan y Saeson yng Ngemau’r Gymanwlad, i gael ei mabwysiadu fel anthem swyddogol Lloegr.

Dywedodd Eddie Bone o ymgyrch England Is My Heart y byddai dewis anthem wahanol i Loegr yn golygu y gallai “pawb ddod at ei gilydd yn y diwedd i ganu God Save The Queen”.

Ymysg y caneuon eraill sydd wedi cael eu hawgrymu ar gyfer anthem Lloegr mae ‘Land Of Hope And Glory’, ‘I Vow To Thee, My Country’, neu hyd yn oed gyfansoddi un o’r newydd.

Mae ASau wedi ceisio codi’r mater yn y Senedd yn y gorffennol, ac fe ddywedodd y Prif Weinidog David Cameron y byddai e o blaid gweld ‘Jerusalem’ yn cael ei dewis.

Ychwanegodd AS Plaid Cymru Jonathan Edwards nôl yn 2012 ei fod yn cytuno â safbwynt David Cameron, ond bod dewis anthem newydd yn fater i’r Saeson ei benderfynu.

Gogledd Iwerddon?

Dyw hi ddim yn glir fodd bynnag beth fyddai’n digwydd yn sefyllfa Gogledd Iwerddon, sydd hefyd yn defnyddio ‘God Save The Queen’ fel eu hanthem cyn gemau chwaraeon rhyngwladol.

Ond mae llywydd Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon Jim Shaw eisoes wedi awgrymu y byddai’n anodd iawn i’r tîm barhau i ganu’r anthem os oedd Lloegr yn newid eu harfer.

Mae sôn wedi bod yn y gorffennol y gallan nhw ddewis anthem wahanol eu hunain, gyda ‘Danny Boy’ yn un sydd wedi cael ei defnyddio’n answyddogol ar achlysuron yn y gorffennol.

Ond mae’n bosib y byddai newid anthem Gogledd Iwerddon yn achosi ffrae wleidyddol rhwng Unoliaethwyr a Gweriniaethwyr y wlad.