Seran Dolma yn y 'Jyngl' yn Calais
Y ‘Jyngl’ yw’r enw sydd wedi’i roi ar y gwersyll ffoaduriaid ar gyrion Calais, ble mae oddeutu 6,000 o bobl yn byw, y rhan fwyaf ohonynt mewn pebyll. Teithiodd Seran Dolma, o Lanfrothen, Sara Roberts o Gricieth a Nia Jeffreys o Borthmadog yno ddechrau mis Rhagfyr i gludo llond fan o nwyddau oedd wedi ei gasglu gan bobl leol i’w dosbarthu i’r ffoaduriaid.

Mae cyrraedd y ‘Jyngl’ am y tro cyntaf yn sioc. Mae’n fwdlyd ac yn flêr, mae sbwriel ym mhobman – pebyll wedi’u difetha gan y gwynt, esgidiau coll, bagiau plastig. Pebyll ar hyd y lle, y rhan fwyaf gyda haen ychwanegol o darpolin wedi ei osod drostynt, a’i ddal i lawr gyda phridd a cherrig.

Roedd hi’n brysur y tro cyntaf i ni lanio yno, dynion blinedig a’u hwynebau dwys yn edrych arnom ni wrth gerdded heibio, a ninnau’n teimlo’n hunanymwybodol. Roeddwn i’’n disgwyl hyn i gyd, wrth gwrs, ond mae’n dal yn brofiad dryslyd.

Roedden ni wedi gyrru o ganol Calais, gyda’i garwsél ceffylau bach Nadoligaidd, i lawr y draffordd, heibio i filltiroedd o ffensys uchel, gyda weiren bigog ar y top. Dwy haen o ffens mewn rhai llefydd, a heddlu arfog pob cilomedr neu lai. Ac yna glanio yn rhywle sy’n edrych fel slym yn y trydydd byd.

Benthyg fan y bragdy

Roeddwn i a dau ffrind, Nia Jeffreys o Borthmadog a Sara Roberts o Gricieth, wedi cael benthyg fan gan fragdy Mws Piws, ac wedi ei gyrru i lawr yn llawn o bebyll, sachau cysgu, cotiau, esgidiau a dillad cynnes a gasglwyd gan ein grŵp cefnogi ffoaduriaid lleol.

Roeddem ni’n bwriadu treulio tri diwrnod yn gwirfoddoli cyn dod adref at ein teuluoedd. Roedd Sara wedi bod i Calais o’r blaen, ac yn ‘nabod nifer o’r gwirfoddolwyr hirdymor a’r ffoaduriaid.

Fel rhywun mwy profiadol, gyda fan, roedd galw mawr am ei help hi. Treuliodd Sara y rhan fwyaf o’r tri diwrnod yn cario pobl a phethau rhwng y warws, ble mae rhoddion yn cyrraedd ac yn cael eu didoli, a’r jyngl.

Treuliais i a Nia’r diwrnod cyntaf yn sortio trwy ddillad yn y warws, a’r ddau ddiwrnod arall yn y jyngl, yn yr ‘Ashram Kitchen’, sy’n darparu prydau poeth i tua 500 o bobl y diwrnod, ac yn y ganolfan merched a phlant, ble bûm yn helpu dosbarthu dillad.

Cymunedau llai

Mae’n anhygoel mor hyblyg ydym ni fel pobl. Ar ôl y sioc wreiddiol o lanio yn y ‘jyngl’, o fewn awr, roeddem ni wedi addasu i’r realiti newydd, ac yn brysur yn sychu llestri yn y gegin, gan sgwrsio efo cyfrifydd Cwrdaidd am chwaraewyr pêl droed o Gymru (mae Nia’n un da am siarad iaith ryngwladol pêl droed.  Dydw i ddim, ond ceisiais wneud i fyny am hynny trwy ddysgu gair neu ddwy o Gwrdeg).

Bûm yn crwydro o gwmpas wedyn, gan geisio cael rhyw afael ar faint a daearyddiaeth y gwersyll.

Mae mwyafrif trigolion y jyngl yn dod o Afghanistan, Irac, Iran, Syria, Eritrea a Somalia, ac mae’r amcangyfrif diweddaraf yn awgrymu bod tua 6,000 o bobl yno ar hyn o bryd. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn ddynion, gyda thua 500 o ferched, a nifer llai o blant.

Mae pobl o’r un rhan o’r byd, gydag iaith yn gyffredin, yn dueddol o dynnu at ei gilydd, gan greu rhanbarthau o fewn y jyngl, ‘little Afghanistan’, ‘little Eritrea’ ac yn y blaen.

Busnesau bach


Nia Jeffreys, Sara Roberts a Seran Dolma yn y gwersyll
Ar wahân i’r pebyll, mae nifer cynyddol o garfanau yn cyrraedd, trwy waith gwych gan y mudiad ‘Caravans for Calais’ ac rydw i’n deall bod y rhan fwyaf o’r teuluoedd gyda phlant bellach yn cysgu mewn carafanau.

Mae adeiladau bychain pren hefyd yn cael eu codi, ac mae galw mawr am ddeunyddiau adeiladu.  Ar y brif ‘stryd’ mae nifer o siopau a bwytai bach sy’n cael eu rhedeg gan drigolion y gwersyll, yn darparu bwyd cyfarwydd i’r rhai sy’n medru fforddio’i brynu.

Es i a Nia am banad melys, sbeislyd yn un o’r rhain – rhyw fath o babell estynedig, gyda phlatfform i eistedd, hen soffa, a phridd dan draed.

Mae’n amlwg bod rhai pobl yn cyrraedd gyda’r adnoddau i fedru dechrau busnes bach, tra bod eraill yn cyrraedd heb ddim ac yn gorfod dibynnu ar fwyd am ddim o’r ceginau (credaf fod dwy gegin arall, ar wahân i’r un lle fuom ni’n gwirfoddoli).

Clwb nos – a thoiledau dychrynllyd

Mae’r jyngl yn lle od iawn. Mae yno lyfrgell, theatr, eglwys, ysgolion, clinig yn cynnig brechiadau ffliw, canolfan therapi celf, mae yno hyd yn oed glybiau nos (mae’r mudiadau sy’n gweithio yno yn argymell yn gryf nad yw gwirfoddolwyr yn aros ar ôl iddi nosi, ond mae rhai gwirfoddolwyr hir dymor wedi dewis byw yn y jyngl, ac mae eraill yn ddigon hapus i fynd yno ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos).

Mae hyn i gyd yn eithaf calonogol, mewn ffordd, ac yn arwydd o ymroddiad y gwirfoddolwyr a chryfder ysbryd y ffoaduriaid eu hunain, eu bod wedi llwyddo i greu adnoddau a gwasanaethau diwylliannol fel hyn mewn amgylchiadau mor anodd.

Ar y llaw arall, dim ond tri safle gyda thapiau dŵr sydd yn yr holl wersyll, a dyw’r dŵr ddim o ansawdd derbyniol i’w yfed.  Mae nifer o doiledau ‘portaloo’ cemegol yno, sydd yn cael eu gwagio a’u glanhau, ond ddim yn ddigon aml o bell ffordd – roedd eu cyflwr yn ddychrynllyd pan oeddwn i yno.

Mae cawodydd yn bodoli, ond rhaid ciwio am oriau am y fraint o chwe munud o drochfa mewn dŵr cynnes.

Gwelais wirfoddolwyr mewn siacedi ‘Medecins Sans Frontiers’ yn casglu sbwriel, ond doedd ‘na ddim digon ohonyn nhw i fedru taclo’r broblem yn iawn. Ac mae pobl yn byw mewn pebyll bychain, tila, am fisoedd di ben draw, yn y glaw a’r gwynt a’r oerfel.

Ffoi i Brydain

Y rheswm am fodolaeth y gwersyll yn y lleoliad arbennig hwn, wrth gwrs, yw’r ffaith mai hon yw’r brif groesfan i’r Deyrnas Unedig.

Mae’r mwyafrif o bobl yn y jyngl yn gobeithio croesi i Brydain, am fod ganddyn nhw aelodau o’r teulu yno’n barod, neu oherwydd eu bod wedi dysgu Saesneg, neu am eu bod yn credu bod gwell cyfleoedd am waith yno.

O dan Reoleiddiad Dulyn, y ddeddf Ewropeaidd sy’n rheoli ceisiadau am loches, mae ffoaduriaid i fod i wneud cais yn y wlad ddiogel gyntaf maen nhw’n ei chyrraedd, oni bai bod ganddyn nhw deulu agos sydd wedi gwneud cais mewn gwlad Ewropeaidd arall. Os felly, mae ganddynt yr hawl i wneud cais yn y wlad honno.

Yn ôl Citizens UK, rhwydwaith o grwpiau cyfiawnder cymdeithasol sydd wedi bod yn ymchwilio i’r sefyllfa yn Calais, daethant o hyd i 50 o ffoaduriaid o Syria yn y gwersyll o fewn tair awr, i gyd gyda rhesymau dilys i wneud cais am loches ym Mhrydain, gan gynnwys plant yn chwilio am eu rhieni, a gwŷr yn chwilio am eu gwragedd.

Smyglwyr

Ar hyn o bryd, does dim system yn bodoli i bobl wneud cais am loches nes eu bod yn cyrraedd Prydain, ac mae’r awdurdodau’n gwneud popeth posibl i sicrhau nad ydyn nhw’n cyrraedd.

Mae llywodraeth Prydain wedi creu cronfa £12m ar gyfer codi ffensys, ac wedi darparu 1,000 o swyddogion yr heddlu i’r perwyl hwn. Ac eto, bob nos, mae pobl yn ymgeisio i ddringo’r ffensys, ac yn peryglu eu bywydau yn ceisio neidio ar lorïau neu ar y trenau.

Mae Calais Migrant Solidarity yn cadw rhestr ar eu gwefan o’r rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ceisio croesi’r sianel. Mae 23 o enwau ar gyfer 2015.

Mae hi mor anodd croesi o Calais fel bod niferoedd cynyddol o bobl bellach yn dewis symud i Dunquerque, ble mae amodau byw yn waeth byth, yn ôl pob sôn, ond mae’r siawns o gael croesi’n ddiogel yn uwch.

Mae llawer yn talu’n ddrud i smyglwyr pobl i’w cludo dros y ffin, ac yn wir, i deuluoedd gyda phlant dyma’r unig ffordd posibl o groesi i Brydain. Mae llawer yn rhoi’r gorau i geisio croesi, ac yn gwneud cais am loches yn Ffrainc.

Mae Peter Sutherland, cynrychiolydd arbennig y Cenhedloedd Unedig ar ymfudo, wedi awgrymu y dylai Prydain agor canolfan yn Calais i brosesu ceisiadau am loches heb i bobl orfod peryglu eu bywydau yn ceisio croesi’r Sianel.

Polisi David Cameron ar hyn o bryd yw peidio â chaniatáu neb o’r gwersyll i mewn i Brydain, rhag ofn i hynny ddenu mwy o bobl i wneud y daith.

Yn y cyfamser, rydan ni’n clywed am yr heddlu yn saethu nwy dagrau a bwledi rwber at ffoaduriaid yn y gwersyll, gyda honiadau eu bod yn saethu’r nwy i mewn i bebyll ble mae pobl yn cysgu.

Rhoi’r gorau i swyddi

Ar hyn o bryd, mae rhywfaint o bresenoldeb gan un neu ddau o fudiadau mawr fel Hands International a Medecins Sans Frontieres, ond mae’r rhan fwyaf o’r cymorth sy’n cael ei ddarparu yn y jyngl yn dod gan wirfoddolwyr sy’n mynd yno am ba bynnag hyd o amser, ac yn gweithio o dan faner un o’r mudiadau bach sydd wedi cael eu sefydlu’n unswydd i ymateb i’r sefyllfa.

Cwrddais i â mwy nag un unigolyn oedd wedi mynd yno am ychydig o ddyddiau yn wreiddiol, ac wedi aros am fisoedd.

Roedd rhai wedi rhoi’r gorau i swyddi da er mwyn aros yno i helpu. Wrth gwrs, mae hyn yn beth anhygoel i’w weld ac yn profi pa mor hael a charedig mae pobl yn medru bod.

Ond faint bynnag mor ymroddedig yw rhai o’r unigolion sydd yno, yr unig rai allai ddatrys y broblem yw llywodraethau Ffrainc a Prydain.

Dechrau deall

Mae tri diwrnod yn y jyngl yn jyst digon i ddechrau dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas, cyfarfod ychydig o bobl, a dechrau cael rhyw fath o ddealltwriaeth o’r sefyllfa.

Mae’n ddigon o amser i blicio ychydig o foron, sortio tomen o drowsus, golchi llestri a dosbarthu ychydig o ddillad.

Dydi o ddim yn llawer, dydw i ddim yn twyllo fy hun bod fy mhresenoldeb yn ystod y tridiau yna ym mis Rhagfyr wedi gwneud gwahaniaeth ymarferol mawr i neb.

Ond mae’n ddigon hir i ddechrau teimlo rhyw ymrwymiad personol efo’r sefyllfa, ac i wylltio, ac i benderfynu bod rhaid gwneud mwy.

Mae Seran, Sara a Nia yn aelodau o Grŵp Cefnogi Ffoaduriaid Gogledd Cymru.  Gweler www.nowars.co.ukam ragor o fanylion.