Ddylai’r BBC ddim fod yn gorfod ysgwyddo’r baich o dalu am gost trwyddedau teledu i bobl sydd dros 75 oed, yn ôl cyn-bennaeth y gorfforaeth.

Yn gynharach eleni fe gytunodd y BBC i gymryd y cyfrifoldeb oddi wrth y llywodraeth dros gyllido trwyddedau’r henoed, sydd ddim yn gorfod talu am y gwasanaeth.

Ond mynnodd Mark Thompson, oedd yn brif gyfarwyddwr ar y BBC rhwng 2004 a 2012, bod y cam yn un “hollol amhriodol”.

Poeni am y Siarter

Mynnodd fodd bynnag nad oedd yn beirniadu’r prif gyfarwyddwr presennol Tony Hall gan ddweud nad oedd am geisio “dyfalu” beth oedd wedi cael ei drafod y tu ôl i ddrysau caeedig.

Yn ôl Mark Thompson mae’r amodau gwleidyddol presennol bellach yn golygu bod y Gorfforaeth yn wynebu llawer mwy o anawsterau nag oedd hi yn ei gyfnod wrth y llyw.

Mae Siarter Brenhinol y BBC, sydd yn dod i ben yn 2016, wrthi’n cael ei hadolygu gan y llywodraeth ar hyn o bryd, ac fe gyfaddefodd y cyn-bennaeth fod ganddo bryderon.

“Dw i jyst yn gobeithio ar ddiwedd yr holl gwestiynu y caiff yr atebion cywir eu cynnig,” meddai Mark Thompson.

“Ac i mi’r ateb yw BBC gref o ran maint a sgôp, sydd wedi’i hariannu’n iawn.”