David Cameron a'i wraig Samantha yn ymweld a'r arddangosfa yn Nhŵr Llundain yn 2014
Bydd rhan o arddangosfa o babïau coch oedd i’w gweld yn Nhŵr Llundain yn 2014 yn dod i Gastell Caernarfon y flwyddyn nesaf.

Bydd y pabïau coch ‘eiconig’ sy’n ffurfio’r arddangosfa Weeping Window a’r Wave yn cyrraedd y castell ar 12 Hydref 2016 er mwyn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Byddan nhw’n aros yno tan 20 Tachwedd sy’n golygu y byddan nhw yn y Castell adeg Sul y Cofio a chanmlwyddiant diwedd Brwydr y Somme.

Roedd yr arddangosfa, a oedd yn Nhŵr Llundain yn wreiddiol, yn cynnwys 88,246 o babïau coch – un er cof am fywyd pob milwr o Brydain a’r Trefedigaethau a fu farw yn ystod y rhyfel.

Rhan o’r arddangosfa fydd yn dod i Gaernarfon, sef y Weeping Window, cerflun sydd ar ffurf rhaeadr o babïau yn llifo o ffenest i lawr i’r ffos. Bwa o babïau coch yw’r Wave.

Rhaglen 14-18 NOW, sy’n coffáu digwyddiadau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, sy’n gyfrifol am y daith a fydd yn mynd â’r cerfluniau o gwmpas y Deyrnas Unedig.

Roedd lleoliadau ar draws y Deyrnas Unedig wedi cael cais i gyflwyno cynigion i groesawu dau gerflun a bu cais Castell Caernarfon yn llwyddiannus.

‘Castell Caernarfon yn lleoliad heb ei ail’

“Rwy’n falch iawn fod Castell Caernarfon wedi’i ddewis i gynnal cerflun hynod Weeping Window yn ystod dyddiadau allweddol yn 2016, gan gynnwys Sul y Cofio,” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC.

“Gwnaeth yr arddangosfa wreiddiol yn Nhŵr Llundain ddenu miliynau o ymwelwyr rhyngwladol a daeth yn ddelwedd eiconig ar gyfer nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Bydd Castell Caernarfon yn lleoliad heb ei ail ar gyfer y cerflun gwych hwn ac rwy’n hyderus y bydd trigolion yr ardal ac ymwelwyr yn hapus iawn â’r newyddion yma.”