Mae un o arweinwyr Cristnogol Cymru wedi defnyddio araith Sul yr Adfent i alw ar Aelodau Seneddol i wrthod y cynnig yn San Steffan i fomio Syria.

Yn ei araith, dywedodd y Parchedig Ddoctor R Alun Evans, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y “byddai gweithredu dialgar o’r fath yn siŵr o arwain at fwy o drais a marwolaethau anochel nifer di-ri o bobol ddiniwed”.

Ychwanegodd: “Heddiw, wrth i ni edrych tuag at y Nadolig a genedigaeth Tywysog Tangnefedd, rwy’n apelio ar wleidyddion i bleidleisio yn erbyn y bomio.

“Byddai gweithredu dialgar o’r fath yn siŵr o arwain at fwy o drais a marwolaethau anochel nifer di-ri o bobl ddiniwed.

“Byddai bomio’n datrys dim, ond byddai ISIL yn pesgi arno.

“Rydym yn dal i dalu’r pris am yr ymosodiadau ffôl ar Irac a Libya, a greodd y gwagle pŵer sy’n cael ei lenwi gan ISIL. Pryd y dysgwn ni’r wers?”