Trident
Gyda’i dafod yn ei foch – ella – dyma Hefin Jones gyda’i olwg unigryw ar rai o’r straeon sydd wedi bod yn corddi’r dyfroedd …

Comrade Carwyn

Plwmp a phlaen oedd ‘NA’ Carwyn Jones i ail-leoli Trident yng Nghymru pan gaiff yr Albanwyr ei wared rhyw ddydd. Yn wahanol iawn i’w gais brwd yn 2012 i groesawu’r taflegryn niwclear pe bai’r Albanwyr mor anniolchgar â’i wrthod. Ond beth sydd wedi newid? Pwy a ŵyr, oni bai am ei fos-arweinydd Prydeinig… ond byddai hynny’n rhoi Carwyn mewn lleiafrif ysgubol o Lafurwyr proffesiynol sy’n gwrando ar Corbyn, felly parhau mae’r dirgelwch.

Mynd a’r Brifwyl i’r byd

Yn eu maniffesto beth gafodd ei addo gan y Torïaid oedd y byddai cyllid S4C yn cael ei warchod, felly dim syndod i weld toriad o £1.7m. A beth arall oedd yn ddifyr oedd eu honiad dilynol y byddent yn ‘hyrwyddo’r Eisteddfod Genedlaethol yn fyd eang’. Er, gallai fod problem gyda’u cynlluniau i ddenu’r Saudi Arabiaid i’r Faenol a’r Bala a Meifod. Mater i Lywodraeth Cymru fyddai hynny gan fod diwylliant wedi ei ddatganoli, i fod.

Ffordd Dda gan Lafur

‘How many reasons do you want?’ atebodd y cyn-faer a’r cynghorydd Llafur Russell Goodway i gŵyn y rebel Guto Bebb wrth drydaru ‘Why are sports and the arts in England more worthy of support than the only Welsh language tv station?’ Mae gan Russell hanes o gefnogi’r Gymraeg, yn bellach yn ôl na diddymu grant Tafwyl ei gyngor hyd yn oed. Wrth ateb cwestiwn ar Radio 4 yn 2002 ar bwysigrwydd y Gymraeg i’r ddinas, rhyngwladolodd Russell:“Welsh is one of only 15 languages spoken in this city and it is no more important to us than those languages. This is an international city.”

Rebels go-iawn

Bu i chwe aelod Llafur anwybyddu’r gorchymyn i beidio â phleidleisio ar ddiddymu Trident, a phleidleisio o blaid ei ddiddymu. Mae’n debyg y bu i 14 bleidleisio o blaid ei gadw, yn eu plith Albert Owen oedd dridiau ynghynt yn Llangefni’n gwneud sioe o wrthwynebu cenedlaetholdeb Prydeinllyd asgell dde. Roedd dau rebel arall o Gymru sef Chris Evans Islwyn, a Madeline Moon – dim syndod o ystyried y stori nesaf…

Chocs awê

40 Aelod Seneddol oedd mewn gwledd fawreddog yn Llundain gan y diwydiant arfau i ddathlu eu llwyddiant. A byddech yn falch o glywed fod Cymru’n gorgyflawni yn y gynrychiolaeth, gydag Owen Smith (Llafur, Pontypridd), Madeleine Moon (Llafur, Pen-y-bont), Ian Lucas (Llafur, Wrecsam) ac Alun Cairns (Ceidwadwyr, Bro Morgannwg) yn codi eu gwydrau a llenwi eu boliau i’r fath ragolygon hapus i’r farchnad dan wahoddiad Raytheon, Airbus a BAE Systems (British Aerospace gynt). Y siaradwr gwadd oedd Jeremy Vine a gyfiawnhaodd, gyda gobaith, ei ffi pum ffigwr wrth hepgor Newsnight am noson.

CPRic yr wythnos

Yn ein heitem reolaidd bellach, siaradodd Aelodau Seneddol Ceidwadol lol am hydoedd yn fwriadol i stopio pleidlais arall, ar roddi Cymorth Cyntaf ar gwricwlwm ysgolion uwchradd y tro hwn. Anodd gwybod beth gebyst oedd ganddynt yn erbyn hwn, ond debyg fod arian wrth wraidd y peth yn rhywle i rywun. Yr arwyr y tro hwn oedd Sam Gyimah a’r hen gyfaill Phillip Davies, a wnaeth yr un fath i barcio ar gyfer gofalwyr. Cofiwch ddweud os yw hyn yn mynd yn ddiflas.

Jam poeth

Y broblem ar yr A55 a’i giwiau yw’r gyrwyr anufudd, nid yr holl waith sy’n mynd rhagddo bob sut ar y lôn. Mewn llythyr esboniodd Edwina Hart, Arbenigwraig Traffig Llywodraeth Cymru: ‘We have trialled a number of changes to the traffic management arrangements within Conwy tunnel but non-compliance from drivers meant that they have had to be called off’, ac adleisiodd yn y Senedd: “poor driver behaviour impacted on our efforts to minimise queuing”. Distaw aeth pethau wrth i rai holi’n union beth oedd y gyrwyr twp yma wedi methu ei wneud. Bydd hi’n chwith ar ei hôl fis Mai.

Tyrcwn chwim

Mewn deuddydd cafwyd datganiadau gan wlad Twrci eu bod wedi rhybuddio awyren Rwsia ddeg gwaith am fod uwchben eu gwlad, yna fod yr awyren wedi bod uwchben eu gwlad am 17 eiliad. Mae’n rhaid bod eu rhybuddion yn fyr iawn. A dywedodd yr Arlywydd Erdogan mai ef ei hun orchmynnodd y saethu. Gwaith cyflym. Wedyn gellir ystyried lle ddisgynnodd yr awyren. Ni fyddai’n cymryd Edwina Hart i ddadansoddi pwy sy’n dweud y gwir yn yr anghydfod traffig yma.

Hwyl â fflag

Cysur i’r Saeson o ryw fath oedd gweld yr Iwniyn Jac ar y ddwy faner ar y cae cyn gêm derfynol Cwpan Rygbi’r Byd. Ond mae un o’r gwledydd anniolchgar yn bygwth hepgor y symbol am byth, a Seland Newydd yn cynnal pleidlais i selio ei ffawd. Gellir rhagweld y ffordd aiff yr etholiad fis Mawrth yn y ffordd y mae refferendwm tair wythnos ar y gweill rŵan hyn ar ba faner i’w defnyddio pan … sori … pe bai’r bleidlais yn mynd yn erbyn ein hoff symbol cenedlaethol, a phob plentyn ym mhob ysgol yn eiddgar ddewis eu ffefryn.

Cynghreirio â’r Sais

Bu cwyno mawr gan glybiau pêl-droed Caerdydd a Chasnewydd wrth i’w cynghrair ailenwi ei hun yn The English Football League. Ac efallai y daw fel sioc i Abertawe hefyd mai fel yr ‘English’ Premier League y mae eu cynghrair yn cael ei hadnabod ym mhob man arall yn y byd, nid ‘The’. Y fath anfri ar ein cenedl! I’r Gad!