Hilary Benn (Trwydded Llywodraeth Agored)
Fydd llefarydd tramor y Blaid Lafur ddim yn ymddiswyddo tros y ddadl am fomio Syria.

Ac fe awgrymodd Hilary Benn wrth y rhaglen radio Today y gallai aelodau seneddol Llafur gael pleidlais rydd ar y pwnc.

Fe allai hynny osgoi gwrthryfel yn erbyn yr arweinydd, Jeremy Corby, ond fe fyddai’n golygu hefyd ei fod ef wedi methu â chael barn gytûn.

‘Pwnc cymhleth iawn’

Roedd yna adroddiadau tros nos fod nifer o aelodau cabinet yr wrthblaid yn bygwth ymddiswyddo os oedd yr arweinydd yn mynnu eu bod yn pleidleisio yn erbyn bomio.

Ond, er ei fod wedi dadlau bod dadl gre’ tros fomio, fe ddywedodd Hilary Benn y bore yma na fyddai’n ymddiswyddo oherwydd ei fod eisiau gwneud ei waith yn gysgod i’r Ysgrifennydd Tramor.

“Mae hwn yn bwnc cymhleth iawn; mae’n anodd iawn a bydd raid i bob unigolyn yn y diwedd ddod i’w gasgliad ei hun. Dw i’n parchu’r rhai sydd â barn wahanol, wir yr.”