Mae’r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd wedi dweud ei bod yn poeni dros “bresenoldeb cynyddol” awyrennau’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn hedfan yn isel dros rannau o Feirionnydd.

Ar ôl “bron i ddwy ddamwain agos” mae Liz Saville Roberts wedi galw ar y Weinyddiaeth i gynnal adolygiad brys i ymarferion hedfan isel.

Mae hefyd  wedi gofyn a fydd Strategaeth Diogelwch Cenedlaethol ac Adolygiad Amddiffyn Strategol David Cameron yn arwain at fwy o ddefnydd o awyrennau yng Nghanolbarth Cymru ar gyfer ymarferion hyfforddi hedfan isel. Mae’r Prif Weinidog yn amlinellu ei strategaeth yn y Senedd heddiw.

Ar hyn o bryd, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn defnyddio rhannau o ganolbarth Cymru, gan gynnwys cyfres o ddyffrynnoedd rhwng Dolgellau a Machynlleth sy’n cael ei alw’n y ‘Machynlleth Loop’ er mwyn cynnal ymarferion hedfan isel.

Hedfan 250 o droedfeddi o’r tir

Mae’r ‘Machynlleth Loop’ yn cael ei ddefnyddio’n gyson  ac mae awyrennau yno’n hedfan mor isel â 250 o droedfeddi (76 medr) o’r tir.

“Bu bron i ddwy ddamwain agos yn ymwneud ag awyrennau yn dod i mewn i’r Machynlleth Loop o wahanol gyfeiriadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, gan bwysleisio bod hynny’n “ddwy yn ormod”.

“Mae galwadau wedi cael eu gwneud dro ar ôl tro i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ymchwilio’n llawn i achosion o dorri rheolau diogelwch a chymryd camau cadarn i liniaru effaith hedfan isel ar draws rhannau gwledig o Feirionnydd.”

‘Angen ystyried yr effaith ar bobl leol’

Er bod Liz Saville Roberts yn cydnabod mai y tu allan i’w hetholaeth y digwyddodd yr achos diweddaraf, mae’n dweud bod yr awyrennau hyn yn codi pryder i drigolion Meirionnydd.

“Siawns ei bod yn hen bryd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ystyried yr effaith y mae’r awyrennau yma yn ei gael ar drigolion lleol, yn enwedig os yw’n fwriad cynyddu hyfforddiant hedfan isel ar draws Meirionnydd,” meddai.

Mae nawr yn galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i gynnal asesiad effaith “ar frys” a “rhoi’r cyfle” i bobol leol fynegi eu barn at sut mae’r ymarferion hedfan isel hyn yn effeithio arnyn nhw, gan “gymryd camau derbyniol i leddfu’r arfer hwn.”

Ymateb y Weinyddiaeth Amddiffyn

“Mae angen parhaus i Luoedd Arfog y Deyrnas Unedig weithredu’n llwyddiannus mewn amgylchedd lefel isel i sicrhau bod Lluoedd y DU yn gallu cyflawni tasgau ar ymgyrch,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

“Er hynny, mae diogelwch yn parhau i fod o’r pwys mwyaf i ni ac mae’r gwasanaethau arfog yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod ystyriaethau diogelwch yn yr awyr wrth galon ein gweithgarwch hedfan.”

Nid oedd y Weinyddiaeth wedi dweud a fyddai’n cynnal yr adolygiad y mae Liz Saville Roberts wedi galw amdano.