Mae’r Canghellor wedi dweud heddiw na fydd angen cynnal refferendwm ar ddatganoli rhai trethi incwm i Gymru sy’n golygu bod y maes yn cael ei ddatganoli’n awtomatig i Gymru.

Yn dilyn cyhoeddiad George Osborne yn Natganiad yr Hydref, mae’n golygu y gallai Llywodraeth Cymru gael rheolaeth dros £3 biliwn o dreth refeniw o 2018.

Mae’r Canghellor hefyd wedi dweud y bydd Cymru’n cael ‘isafswm gwariant’ newydd i sicrhau na fyddai’n cael ei thangyllido.

Fe wnaeth George Osborne ddweud na fyddai gwasanaethau sydd wedi’u datganoli yng Nghymru, fel addysg ac iechyd, yn disgyn yn is na £115 ar gyfer pob £100 sy’n cael ei wario yn Lloegr.

Bydd grant Cymru yn cyrraedd £15 biliwn erbyn 2019/20 a bydd ei gwariant yn codi i £900 miliwn yn ystod yr un cyfnod.

Mae’r Canghellor hefyd wedi dweud y bydd yn helpu i ariannu “cytundeb dinesig” i Gaerdydd a rhanbarthau cyfagos i’w gwario ar brosiectau isadeiledd. Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eisoes wedi cytuno i gyfrannu £580m.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad am drethi incwm dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd, ar Twitter:  “Falch iawn clywed y bydd datganoli trethi incwm heb refferendwm ARALL. Ni ddylai atebolrwydd ariannol ac aeddfedrwydd fod yn ddewisol.”

Croesawu

Wrth ymateb i’r newyddion am bwerau treth incwm i Gymru  heb refferendwm, dywedodd Jonathan Edwards AS llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys fod y newyddion  i’w groesawu “ac yn cynrychioli buddugoliaeth sylweddol i Blaid Cymru.

“Am flynyddoedd bellach, rydym wedi dadlau fod yr egwyddor o ymreolaeth ffisgal wedi ei ildio’n barod drwy ddatganoli trethi bychan.

“Golyga hyn y byddai’r refferendwm wedi bod yn wastraff amser ac adnoddau llwyr, ac rydym yn falch fod Llywodraeth y DG wedi gweld y goleuni ar y mater hwn o’r diwedd.”

 

‘Nid cenedl eilradd yw Cymru’

Ychwanegodd: “Serch hyn, mae Plaid Cymru yn credu nad yw pwerau treth incwm yn unig yn ddigon. Rydym eisiau i Gymru gael cynnig yr un pwerau ariannol a chyllidol sydd ar gynnig i wledydd eraill y DU.

“Mae’r Alban wedi cael pwerau treth incwm llawn heb refferendwm a bydd Gogledd Iwerddon yn derbyn grym dros dreth gorfforaethol. Nid yw Cymru yn genedl eilradd ac nid oes unrhyw reswm yn y byd pam na ddylai San Steffan gynnig yr un fargen i ni.

“Dim ond wedyn y bydd gan Lywodraeth Cymru yr offer angenrheidiol i wneud y penderfyniadau a’r newidiadau fydd yn gweithio er budd yr economi Gymreig, nid y Trysorlys yn San Steffan.”

‘Gwneud gwahaniaeth enfawr’

Dywedodd Alun Cairns, Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru:  “Mae’n ddatganiad sylweddol i Gymru, mae sawl mesur yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd byw a chyfoeth Cymru.”

Yn ôl Alun Cairns, y ddau peth pwysicaf sy’n dod allan o’r datganiad heddiw yw creu sylfaen cyllid i Gymru a rhoi peth reolaeth dros drethi incwm i Lywodraeth Cymru.

“Mae system ddatganoli ledled y Deyrnas Unedig erbyn hyn mewn dinasoedd fel Newcastle, Bryste a Sheffield ac wrth i ddinasoedd gael llawer mwy o rym ac wrth bod datganoli yng Nghymru yn aeddfedu, mae hyn (datganoli pwerau trethi incwm) yn ddigon teg.

“Dwi eisiau gweld pobol yng Nghymru yn talu llawer llai o drethi, dyna’r fath o ymgyrch dwi eisiau bod yn rhan ohono,” meddai gan gyfeirio at etholiadau’r Cynulliad yn 2016.