Mae’r Canghellor wedi sgrapio cynlluniau i dorri credydau treth i filiynau o weithwyr sydd ar incwm isel.
Mae George Osborne hefyd wedi diystyru toriadau pellach i gyllidebau heddluoedd Prydain.
Fe gyhoeddodd hefyd mai £756 biliwn fydd cyfanswm gwariant cyhoeddus am y flwyddyn (£821 biliwn erbyn 2019-2020)
Wrth iddo gyflwyno Datganiad yr Hydref yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, mae George Osborne wedi cyhoeddi na fydd yn gwneud toriadau gwerth £4.4 biliwn i gredydau treth oherwydd bod yr economi wedi gwella.
Dywedodd y bydd yn parhau i allu cwrdd â’r nod o wneud gwerth £12 biliwn mewn toriadau lles dros y pum mlynedd nesaf.
‘Wedi gwrando ar y pryderon’
Roedd toriadau i gredydau treth yn gam dadleuol iawn i’r Llywodraeth yn San Steffan, ac er i Dŷ’r Cyffredin bleidleisio o blaid y cynnig, fe wnaeth Tŷ’r Arglwyddi bleidleisio yn ei erbyn gan orfodi’r Canghellor i edrych ar y cynlluniau eto.
“Rwyf wedi gwrando ar y pryderon. Rwy’n eu clywed ac yn eu deall,” meddai wrth Dŷ’r Cyffredin.
Y peth hawsaf, meddai, oedd osgoi eu cyflwyno yn gyfan gwbl.