George Osborne
Fe fydd Llywodraeth Cymru’n cael gwybod heddiw beth fydd ei chyllideb ar gyfer y pedair blynedd nesaf, pan fydd Canghellor San Steffan George Osborne yn cyflwyno Datganiad yr Hydref.

Fe fydd gwariant ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn golygu y bydd cynnydd hefyd yng nghyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, sydd eisoes yn £15.3 biliwn.

Ond mae disgwyl i’r gyllideb sydd ar gael ar gyfer cynghorau lleol a’r heddlu grebachu, gan mai dyma ddau o’r meysydd sy’n gweld gostyngiad yn eu cyllideb yn Lloegr.

Mae’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt eisoes wedi dweud bod gan Gymru £1.3 biliwn yn llai i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus nag oedd ganddi yn 2010.

Un maes sy’n debygol o wella i bobol Cymru yw’r pensiwn gwladol, ac mae disgwyl i hwnnw gynyddu i £119.30 yr wythnos o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Yn ystod ei ddatganiad, fe fydd Osborne yn amlinellu ei gynlluniau i sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn aros yn uwch y pen yng Nghymru nag yn Lloegr, a hynny drwy addasu Fformiwla Barnett.

Ond mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r llywodraeth am osod “llawr” ar wariant yn hytrach na rhoi cyllid deg i Gymru.

Blaenoriaethau Osborne

Bydd Datganiad yr Hydref yn gyfle i George Osborne bwysleisio bod Llywodraeth Prydain am sicrhau mai ‘cenhedlaeth prynu’ yw’r genhedlaeth bresennol, yn hytrach nag un sy’n rhentu.

Mae disgwyl iddo wneud hynny drwy gyflwyno’r rhaglen tai fforddiadwy fwyaf ers 30 o flynyddoedd.

Fe fydd hefyd yn cyflwyno cynlluniau i sicrhau 400,000 o dai newydd yn Lloegr.

Ond toriadau sy’n debygol o fod ar frig yr agenda, wrth i Osborne gyhoeddi sut mae’n bwriadu torri £20 biliwn oddi ar wariant a £12 biliwn oddi ar y rhaglen les.

Mae disgwyl hefyd iddo geisio sicrhau £5 biliwn ychwanegol drwy gyflwyno deddfwriaeth lymach ar osgoi talu trethi.

Adrannau eraill

Mae disgwyl rhagor o doriadau i’r heddlu drwy wledydd Prydain, ond maen nhw’n rhybuddio y gallai hynny effeithio ar eu gallu i ymateb i ymosodiadau brawychol posib yn dilyn cyflafan Paris.

Mae disgwyl i’r Swyddfa Gartref wynebu toriadau o 20-30%.

Bydd £12 biliwn ychwanegol ar gael i’r Adran Amddiffyn drwy ymrwymiad i gyrraedd nod Nato o wario 2% o’r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) ar amddiffyn – sy’n golygu cyllideb o £178 biliwn ar gyfer y degawd nesaf.

Bydd y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn derbyn £3.8 biliwn ychwanegol yn 2016-17, tra bydd fformiwla decach ar gael i ariannu ysgolion.

Bydd y nod o wario 0.7% o GDP ar gymorth rhyngwladol hefyd yn cael ei gwireddu.

Ar y cyfan, mae disgwyl i George Osborne fethu yn ei nod o leihau’r diffyg o £69.5 biliwn eleni.