Gallai’r gwahaniaeth barn ymysg y Blaid Lafur gael ei hamlygu heddiw wrth i Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP) alw am bleidlais i sgrapio Trident.

Mae Aelodau Seneddol Llafur wedi’u gorchymyn i gadw draw rhag lobïau Tŷ’r Cyffredin yn hytrach na chwarae’r “gêm wleidyddol” sy’n cael ei chynllunio gan yr SNP.

Ond fe allai rhai Aelodau Seneddol Llafur bleidleisio gyda’r Ceidwadwyr dros gadw ac adnewyddu Trident a’r llongau tanfor sy’n cario’r taflegrau.

Fe ddaeth tensiynau mewnol i’r amlwg yr wythnos ddiwethaf pan gyhoeddodd Jeremy Corbyn ei fod wedi penodi Ken Livingstone (cyn maer Llundain) i gydlynu adolygiad o system amddiffyn y blaid, ynghyd â Maria Eagle (llefarydd amddiffyn y blaid), sy’n cefnogi Trident.

Mae polisi swyddogol y Blaid Lafur yn parhau yn gefnogol o’r arfau niwclear er gwaethaf gwrthwynebiad personol Jeremy Corbyn

Fe gyhoeddodd David Cameron ddoe y byddai’r gost o adnewyddu’r llongau tanfor yn gallu codi i £40 biliwn.

Fe ddywedodd llefarydd amddiffyn yr SNP Brendan O’Hara, “ni ddylai Trident gael ei adnewyddu. Efallai mai dyma’r cyfle seneddol olaf i rwystro’r prosiect ofnadwy yma a her y Blaid Lafur yw ymuno a ni – er mwyn ei rwystro unwaith ac am byth.”